Gwrth-Semitiaeth: Atal AS yn 'annheg' medd grŵp Llafur

  • Cyhoeddwyd
Chris WilliamsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Williamson wedi dweud ei fod yn difaru gwneud y sylwadau

Ni ddylai AS Llafur fod wedi cael ei ddiarddel am ddweud bod y blaid wedi bod yn "rhy barod i ymddiheuro" ynghylch gwrth-Semitiaeth, yn ôl y gangen Gymreig o'r mudiad adain chwith sy'n cefnogi Jeremy Corbyn, Momentum.

Dywed Gwreiddiau Llafur Cymru (GLlC) bod AS Gogledd Derby, Chris Williamson yn destun beirniadaeth annheg gan y cyfryngau ar ôl iddo ddweud bod y blaid "wedi ildio gormod o dir" yn y ffrae dros agweddau gwrth-Semitiaeth ymhlith aelodau.

Fe ddywedodd maes o law ei fod yn difaru gwneud y sylwadau, sy'n destun ymchwiliad mewnol.

Ond yn ôl datganiad gan GLlC mae'r cyfryngau a gwleidyddion Llafur wedi camddehongli sylwadau Mr Williamson.

Dywedodd y datganiad ei fod yn "ceisio dadlau bod gwleidyddion Llafur yn aml wedi rhuthro i dderbyn honiadau dadleuol ynghylch maint y broblem", yn hytrach nag awgrymu bod Llafur wedi rhuthro i ymddiheuro i'r gymuned Iddewig.

Roedd y sylwadau, medd GLlC, "yn sicr o fewn cwmpas yr hyn y dylid ei drafod" ac mae diarddel Mr Williamson yn "annheg a diangen".

Mae rhagymadrodd y llythyr yn enwi Chris Elmore, David Hanson, Stephen Kinnock, Anna McMorrin, Owen Smith a Jo Stevens fel rhai o'r ASau Cymreig a alwodd am ei ddiarddel.

'Tanseilio trafodaeth iach'

Dywedodd GLlC bod "ceisio rhoi caead ar unrhyw drafodaeth am ba mor gyffredin yw gwrth-Semitiaeth neu'r ffordd orau o'i daclo yn tanseilio traddodiadau gorau Llafur o ran trafodaeth iach ac yn amharu ar ymdrechion i gael gwared ar ragfarn".

"Mae ymddygiad rhai sylwebwyr hefyd â'r risg o greu awyrgylch gelyniaethus lle mae unrhyw un sy'n amddiffyn hawliau'r Palesteiniaid a beirniadu gwladwriaeth Israel yn ofni cael eu pardduo'n wrth-Semitaidd," meddai'r datganiad.

Ychwanegodd y grŵp eu bod yn llwyr wrthwynebu unrhyw fath o hiliaeth a rhagfarnau, ond bod natur y drafodaeth gyhoeddus ar y mater yn amharu ar "y drafodaeth agored a difrifol sydd angen i ddatblygu atebion effeithiol".

"Mae'r galwadau croch i gosbi Chris Williamson yn symptom afiach o'r broblem yma ac rydym yn credu ei fod yn haeddu ein cefnogaeth wrth fynnu gwrandawiad teg."

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru bod Mark Drakeford "wedi dweud ar sawl achlysur bod dim lle i wrth-Semitiaeth o fewn Llafur Cymru nag yng Nghymru."

Ychwanegodd bod yna ganllawiau o ran delio â chwynion ac y byddai'n amhriodol i wneud sylw pellach.