Syniadau gwahanol i ddathlu Diwrnod y Llyfr
- Cyhoeddwyd
Dydd Iau, Mawrth 7 mae hi'n Ddiwrnod y Llyfr. Mae'n ddigwyddiad blynyddol a gafodd ei ddechrau gan UNESCO yn 1995 i hybu darllen, cyhoeddi a hawlfraint.
Un o arferion y diwrnod erbyn hyn yw i blant wisgo fel eu hoff gymeriad o lyfr. Ond nid pawb sydd eisiau gwisgo i fyny.
Mae ffyrdd eraill i rieni fod yn greadigol gyda'u dathliadau, ac os ydych chi wedi bod yn crafu eich pen am weithgareddau, mae Cymru Fyw yma i helpu!
Os hoffech chi wneud rhywbeth ychydig yn wahanol eleni, mi gasglodd yr awdur poblogaidd, Bethan Gwanas, syniadau at ei gilydd a'u cyhoeddi ar ei blog, dolen allanol.
Mae Cymru Fyw wedi dewis rhai o'n hoff rai i'ch ysbrydoli chi.
1. Helfa drysor gyda llyfrau.
2. Brecwast llyfrau cyn mynd i'r ysgol gyda rhieni / nain a taid / pwy bynnag gyda llond mwg o siocled poeth a phawb yn darllen.
3. Llyfr Ffactor, sef cystadleuaeth sefyll i fyny o flaen pawb i sôn am eich hoff lyfr am 2-3 munud.
4. Creu golygfa o lyfr mewn bocs esgidiau neu jar fel yr un lliwgar yma.
5. DEAR, sef "Drop Everything and Read", sef pawb, yn cynnwys y staff, ar ganiad cloch neu seiren i roi'r gorau'n syth i'r hyn 'roedden nhw'n ei wneud a darllen yn dawel (neu'n uchel) am ddeg munud. Oes fersiwn Gymraeg, dywedwch? Beth am DODAS, "Dim Ond Darllen Am Sbel"?
6. Caffi llyfrau gyda bwydlen o lyfrau a blas o bob un
7. Ysgrifennu a darlunio llyfr fel ysgol.
8. Pob dosbarth i berfformio llyfr i'r dosbarthiadau eraill - gyda phypedau neu fasgiau, props, BSL ac ati.
Mae gan Bethan Gwanas un gair o gyngor sy'n bwysig cadw mewn cof drwy gydol y diwrnod, ac efallai dyma'r neges bwysicaf oll wrth ddarllen: "Be bynnag fyddwch chi'n ei neud, mwynhewch!"