Ble mae 'pedwar ban Cymru'?
- Cyhoeddwyd
Mae'r dywediad 'pedwar ban y byd' yn codi'n ddigon aml ond beth am 'bedwar ban Cymru?' Lle maen nhw a beth ydyn ni'n ei wybod am y lleoedd yma?
Ar wahân i un lle yn nwyrain Cymru sydd ar y ffin â Lloegr, ynysoedd bychain oddi ar arfordir Cymru yw lleoedd mwyaf gorllewinol, deheuol a gogleddol ein gwlad.
Ond beth am i ni ddychmygu ein bod eisiau mynd am dro ar droed o un pegwn i'r llall, ar dir sych, heb ymweld â'r ynysoedd hynny. Gan bod Môn yn sownd i weddill Cymru gan ddwy bont, byddai'r daith yn mynd â ni o dop Ynys Môn i lawr i waelod Bro Morgannwg ac o Benfro i Fynwy.
Llanlleiana, Môn
Clogwyni'n syrthio i'r môr yn ardal Llanlleiana yw llecyn mwyaf gogleddol tir mawr Cymru. Y nodwedd agosaf iddo, tua 75m i mewn i'r tir, yw tŵr a godwyd gan gapten llong lleol yn 1902 i ddathlu Coroni Brenin Edward VII. Byddai'r capten yn eistedd yn y tŵr yn gwylio'r llongau'n mynd heibio.
O fan hyn gellir gweld Ynys Badrig, y mwyaf gogleddol o holl ynysoedd Cymru. Yn ôl y chwedl, llongddrylliwyd Padrig Sant, nawddsant Iwerddon ar yr ynys yma. Nofiodd i'r tir mawr lle sefydlodd eglwys Llanbadrig, eglwys hynaf Ynys Môn.
Breaksea Point a Thrwyn y Rhws, Bro Morgannwg
Ger Trwyn y Rhws, Bro Morgannwg mae Breaksea Point, traeth ar lan Môr Hafren. Ar sail llynnoedd hardd, ardaloedd y glaswelltiroedd a chlogwyni trawiadol Y Rhws mae'r ardal wedi ei ddynodi'n Safle o Bwys ar gyfer Cadwraeth Natur.
Wrth edrych i'r dwyrain o Breaksea Point, tua 3.5 milltir i'r môr o bentref Larnog, gellir gweld Ynys Echni (Flat Holm yn Saesneg), ynys mwyaf deheuol Cymru. O Larnog, ar 13 Mai 1897 anfonwyd y neges radio cyntaf erioed ar draws môr agored.
Oddi yno anfonodd Guglielmo Marconi, gyda chymorth George Kemp, peiriannydd Swyddfa'r Post o Gaerdydd neges radio mewn Cod Morse, "Are you ready?" a "Can you hear me"? Ychydig wedyn daeth yr ateb gan Kemp yn ôl, "Yes, loud and clear".
Pen Dal Aderyn, Penfro
Man mwyaf gorllewinol tir mawr Cymru yw llecyn hyfryd heb fod yn bell o Dyddewi ar arfordir Penfro o'r enw Pen Dal Aderyn. Mae'r trwyn o dir, sydd ar Lwybr Arfordir Cymru ac yn denu miloedd o gerddwyr bob blwyddyn, yn cynnwys enwau Cymraeg difyr a hyfryd fel Carn ar Wîg, Pen-maen Melyn, Pen-pedol, Ogof Cadno ac Ogof Mrs Morgan.
Lady Park Wood, Mynwy
Yn wahanol i dri phegwn arall Cymru mae man mwyaf dwyreiniol Cymru yn bell o'r môr, yn Sir Fynwy. Yno mae parc natur Lady Park Wood, coedwig 110 acer, sydd yn cael ei ystyried yn un o'r lleoedd pwysicaf o safbwynt cadwraeth coed drwy Brydain gyfan.
Yma hefyd mae cyfoeth o fywyd gwyllt gan gynnwys adar ac ystlumod prin. Yn llifo drwy ganol y parc mae Afon Gwy, pumed afon hiraf Cymru sy'n mesur 134 milltir o'i tharddle ar lethrau dwyreiniol Pumlumon i Afon Hafren, ger Cas-gwent.
Y pellter rhwng Llanlleiana a Trwyn y Rhws, fel hed y frân yw 145 millir ac mae hi tua 115 milltir o Ben Dal Aderyn i Lady Park Wood.
A beth am y canol...?
Nawr ein bod wedi sefydlu pedwar o leoliadau eithaf tir mawr Cymru mae'n bosib yn fathemategol, darganfod ble mae 'canol Cymru'! Yn fras drwy dynnu llinellau ar draws map y pegynnau mae 'canol Cymru' mewn cae yng Nghapel Madog, ger Aberystwyth. Llawer iawn nes i'r môr na'r disgwyl!
Ond fe fyddai tynnu llinellau sy'n cynnwys ynysoedd Cymru hefyd yn nodi bod 'canol Cymru' yn nes at Gwmystwyth.
Hefyd o ddiddordeb: