Eisteddfod Genedlaethol 2022 yn Rhondda Cynon Taf
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu bod am gynnal y brifwyl yn Rhondda Cynon Taf yn 2022.
Yn ôl datganiad ar y cyd gan yr Eisteddfod a Chyngor Rhondda Cynon Taf, fe wnaeth y cyngor fynegi diddordeb mewn cynnal yr achlysur yn ôl yn 2017, ac mae'r trafodaethau rhagarweiniol wedi parhau ers hynny.
Nid yw'r brifwyl wedi ymweld â Rhondda Cynon Taf ers 1956, pan gafodd yr Eisteddfod ei chynnal yn Aberdâr.
Er nad yw union leoliad yr ŵyl wedi ei phenderfynu eto, y bwriad y tro hwn yw "cynnal yr achlysur mewn lleoliad canolog".
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol hefyd wedi ymweld â Merthyr Tudful a Threorci yn y gorffennol.
'Hybu'r iaith yn yr ardal'
Dywedodd Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, bod yr ŵyl "wrth eu boddau" o gyhoeddi eu bod yn mynd i Rondda Cynon Taf.
Cafodd yr Eisteddfod fodern gyntaf ei chynnal yn Aberdâr ym 1861, a dywedodd Ms Moses ei bod yn "edrych ymlaen at weithio gyda'r gymuned leol ar draws yr ardal i ddod â'r ŵyl i'r sir yn yr unfed ganrif ar hugain".
"Rydyn ni o'r farn y bydd hyn yn helpu i hybu'r iaith yn yr ardal, gyda'r ŵyl a'r prosiect cymunedol yn cefnogi'r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050," meddai.
'Hwb economaidd'
Dywedodd arweinydd y cyngor, Andrew Morgan, ei fod yn "anrhydedd" i'r sir, gan ychwanegu ei fod yn "sicr y bydd yr achlysur yma yn cynnig cyfleoedd economaidd pwysig i Rondda Cynon Taf".
"Mae gan yr achlysur y potensial i roi hwb economaidd mawr trwy roi'r cyfle inni arddangos yr hyn sydd gan ein Bwrdeistref Sirol i'w gynnig fel cyrchfan diwylliannol i ymwelwyr," meddai.
Ychwanegodd y Cynghorydd Morgan y byddai cynnal yr Eisteddfod yn yr ardal yn "gyfle i arddangos treftadaeth ddiwylliannol unigryw Rhondda Cynon Taf".
"Mae'r gwaith nawr yn dechrau i gynnal achlysur y bydd Cymru a Rhondda Cynon Taf yn falch ohono yn 2022," meddai.
"Er mwyn sicrhau bod yr achlysur yn llwyddiant, bydd ymgysylltiad y gymuned yn allweddol wrth inni ddatblygu ein cynlluniau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2018
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018