Heddlu'n arestio dynes am yfed a gyrru wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae dynes yr honnir ei bod wedi yfed a gyrru wedi cael ei harestio yn dilyn gwrthdrawiad â choeden nos Fercher.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r digwyddiad ar ffordd osgoi Pen-y-bont ger Tredŵr am 21:30.
Yn ôl y llu roedd lefel yr alcohol yn ei chorff dros dair gwaith yr hyn sy'n gyfreithlon.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y ddynes yn parhau yn y ddalfa.