Ymddiswyddo dros ganoli gwasanaeth fasgiwlar y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae aelod o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiswyddo mewn protest yn sgil penderfyniad i ganoli gwasanaeth fasgiwlar y gogledd yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.
Dywed Bethan Russell Williams ei bod hi'n poeni y bydd bywydau'n cael eu colli mewn ardaloedd gwledig oherwydd y newid - honiad y mae'r bwrdd iechyd yn ei wrthod.
Ond mae meddygon teulu'r ardal hefyd wedi dweud eu bod yn poeni ynglŷn â chynllun i symud gwasanaethau fasgiwlar brys o Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Wrth ateb cwestiynau yn y Cynulliad ddydd Mawrth - yn absenoldeb y Prif Weinidog, Mark Drakeford - fe ddywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths bod yna "ddryswch" ynghylch dyfodol y gwasanaeth ac mae'r bwrdd wedi cydnabod y dylid bod wedi geirio dogfennau ar y pwnc yn well.
Penderfyniad "anodd"
Cafodd Ms Russell Williams ei phenodi fel aelod annibynnol o'r bwrdd bedair blynedd a hanner yn ôl gan Lywodraeth Cymru.
Mae'n dweud bod y penderfyniad i ymddiswyddo yn un "anodd iawn" ond roedd yn rhaid gwneud oherwydd ei phryder ynghylch effaith symud gwasanaethau fasgiwlar brys o Ysbyty Gwynedd o fis Ebrill, yn enwedig ar gleifion sy'n byw mewn ardaloedd gwledig.
"Dwi'n teimlo yn drist iawn, bod o wedi gorfod dod i hyn a bo fi wedi teimlo bo rhaid i mi ymddiswyddo," meddai.
"Dwi'n teimlo'n bryderus dros boblogaeth yr ardal, ym Mhen Llŷn er enghraifft, lle 'dwi'n gwybod dy'n nhw ddim yn mynd i fedru cyrraedd gwasanaethau brys mewn pryd."
Dywedodd bod dogfen y bwrdd ym Mawrth 2018 yn datgan yn "glir iawn" bod gwasanaethau fasgiwlar brys yn aros yn Ysbyty Gwynedd.
"Mae'r bwrdd yn honni mai dyma'r penderfyniad a wnaed yn 2013," meddai. "Mi wnaethpwyd ymgynghoriad sylweddol amser hynny a mae nhw'n honni bod y penderfyniad yma i symud y gwasanaethau brys yn rhan o'r ymgynghoriad yna."
Fodd bynnag, dywedodd bod nifer wedi nodi bod gwendidau sylfaenol i'r ymchwil hwnnw, gyda "dim digon o fewnbwn clinigol".
Mater 'difrifol'
Pan godwyd y mater yn y Cynulliad dywedodd Ms Griffiths bod hi'n bosib nad oedd geiriad y ddogfen yn glir iawn, gan awgrymu bod rhai gwasanaethau ar gael yn y ddau safle.
Fodd bynnag, fe ychwanegodd bod dim newid, i bob pwrpas, i'r penderfyniad nôl yn 2013 ynglŷn ag ad-drefnu gwasanaethau fasgwlaidd y gogledd a bod diswyl i'r newidiadau yna ddod i rym fis nesaf.
Yn ôl AC Arfon, Siân Gwenllïan - a gododd y mater yn y Senedd - mae "cwestiynau dyrys iawn i'w gofyn ac i'w hateb" ac mae'n galw ar y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething i gynnal ymchwiliad.
"Mae o'n fatar difrifol pan mae aelod o fwrdd yn penderfynu ymddiswyddo ac mae hi'n amlwg yn rhwystredig iawn ac yn siomedig iawn gyda'r hyn sydd wedi bod yn digwydd o fewn y bwrdd ynglŷn â'r gwasanaethau fasgwlar, a dwi'n cytuno efo hi," meddai. "Mae angen gofyn cwestiynau mawr," meddai.
"Yn gyntaf, ynglŷn â doethineb symud y gwasanaeth ac yn ail am y broses sydd wedi cael ei dilyn gan fwrdd sy' mewn mesurau arbennig er mwyn cyrraedd at y penderfyniad ac y camarwain sy' 'di digwydd yn ei gylch o."
Dywedodd bod "angen i Lywodraeth Lafur Cymru ymchwilio fewn i sut ddigwyddodd hyn yn union ac i ddod i gasgliadau ai camarwain yw hyn yn fwriadol neu ddefnydd o eiriau ydi o."
Mae diffyg manylder ynghylch y newidiadau yn destun pryder i feddygol lleol, sy'n cwrdd â phenaethiaid y bwrdd yr wythnos nesaf.
Dywedodd Dr Phil White bod yna wahaniaeth "rhwng be ddywedson nhw i ni nôl yn 2017... a'r datganiad idweddara' oedd yn awgrymu falle bydda na ddim gwasanaethau brys o unrhyw fath ym Mangor nac yn Wrecsam.
"Ochor yma i Ogledd Cymru ma' 'na dipyn o bryder oherwydd ma' ginnon ni wasanaeth o fri yma... a ma ginnon ni lawfeddyg arbennig o alluog a 'da ni yn poeni [ynghylch] falle colli ei wasanaetha' fo."
Ysbytai 'dan straen'
Mewn datganiad yn diolch i Bethan Russell Williams am ei chyfraniad, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Mae tystiolaeth yn dangos os yw claf yn gallu cael ei sefydlogi er mwyn ei gludo i'r ysbyty, yna mae gan deithio ychwanegol i ganolfan arbenigol lai o effaith ar ganlyniad y cyflwr na safon y gofal gall gael ei gynnig gan uned arbenigol unwaith mae claf yn cyrraedd.
"Nid yw Ysbyty Gwynedd yn cynnig gwasanaeth fasgwlar brys drwy'r dydd a nos.
"Mae ein gwasanaeth fel mae hi ar hyn o bryd dan straen, ac nid oes modd i ysbytai unigol ddarparu gofal fasgwlar brys ddydd a nos, felly mae gwasanaethau tu hwnt i'r oriau arferol yn naill ai Ysbyty Gwynedd neu Ysbyty Maelor Wrecsam am yn ail.
"Os na all claf deithio, mae llawfeddyg ar alw yn teithio atynt. Bydd hyn yn parhau gyda'r gwasanaeth newydd."
Mewn ymateb i sylwadau Ms Griffiths ynghylch geiriad eu dogfen, dywed y bwrdd y "gallai'r geiriad, ac fe ddylai'r geiriad, fod wedi bod yn gliriach".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2017