Y Gynghrair Genedlaethol: Leyton Orient 1-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi colli eu lle ar ben y gynghrair wedi iddynt golli i Leyton Orient oddi cartref.
Roedd y gêm hon yn Stadiwm Breyer yn Leyton yn gêm eithriadol bwysig yn y Gynghrair Genedlaethol.
Roedd Wrecsam yn ymweld ar ôl iddynt golli ddwywaith yn erbyn Leyton yn ystod y tymor hwn yn y gynghrair ac yn nhlws yr FA, ond eto Wrecsam oedd ar ben y gynghrair a Leyton Orient yn ail a dau bwynt yn eu gwahanu.
Wrecsam oedd â'r llaw uchaf drwy gydol yr hanner cyntaf a hynny ar waethaf colli Brad Walker i anaf ar ôl chwe munud yn unig, a daeth Bobby Grant i'r cae yn ei le.
Roedd Tollitt yn cael y llaw uchaf ar gefnwr Leyton, Ekpiteta yn gyson, ond ni ddaeth unrhyw sgôr. Roedd Leyton yn gallu torri'n gyflym yn gyson hefyd ond doedd dim i'w ddangos am eu hymdrech ac erbyn diwedd yr hanner cyntaf roedd y tîm cartref yn dechrau cael gafael ar y gêm.
Dim achubiaeth
Cynyddodd hyder Leyton yn yr ail hanner, ac ar ôl ryw ddeg munud roedd Wrecsam yn gorfod gweithio'n galed i amddiffyn.
Yn y diwedd daeth gôl i Leyton o droed Ekpiteta.
Roedd gan y Dreigiau ddeunaw munud i ail afael yn y gêm ac wedi dod ag Oswell a Stockton yn lle Beavon a Tollitt roedd mymryn o frath a menter yn eu hymosodiad.
Ond er fod chwe munud o amser ychwanegol nid oedd achubiaeth i'r Dreigiau.
Felly ildiodd Wrecsam eu lle ar ben y gynghrair a Leyton Orient bellach un pwynt ar y blaen, ond gydag un gêm mewn llaw hefyd.