Uwch Gynghrair: Caerdydd 2-0 West Ham
- Cyhoeddwyd
Croesawodd Caerdydd y tîm o Lundain i'r brifddinas gan wybod fod angen iddynt ailddarganfod sut mae ennill.
Mae'r gemau diweddar wedi bod yn rhai anodd iawn i'r Adar Gleision.
Roedd Watford ac Everton wedi sgorio wyth gôl yng Nghaerdydd a Wolves wedi sgorio dwy arall yn eu herbyn - heb dri phwynt ddydd Sadwrn byddent yn parhau yn y tri isaf yn y Gynghrair.
Dechreuodd y gleision yn fywiog a hyderus ac mewn pedair munud fe gafwyd y dechrau gorau posib - daeth croesiad gan Josh Murphy at droed dde Junior Hoilett a thaniodd yntau ergyd gref i gornel uchaf y gôl.
Roedd y tîm cartref yn bygwth yn gyson drwy'r hanner cyntaf a'r chwaraewyr yn cyd-chwarae yn hyderus er tua diwedd yr hanner cyntaf fe gafodd West Ham ambell gyfle hefyd wrth i Gaerdydd bwyso am eu hail gôl.
'Haeddiannol'
Daeth ail gôl werthfawr i Gaerdydd ar ddechrau'r ail hanner wrth i Victor Camarasa gael ergyd droed dde gref i gornel chwith isaf y gôl
Parhau i chwarae yn gadarn wnaeth Caerdydd ac yn ystod y chwe munud o amser ychwanegol fe ddaliodd y Gleision eu gafael ar y fuddugoliaeth.
"Perfformiad llwyr haeddiannol o dri phwynt" yn ôl Osian Roberts, is-reolwr tîm Cymru a oedd yn y brifddinas yn gwylio.
Yn anffodus i Gaerdydd fe enillodd Southampton, Newcastle a Brighton ddydd Sadwrn hefyd, sydd yn golygu nad yw eu lleoliad yn y gynghrair fymryn yn well.
Ond er yn dal yn y tri isaf mae Caerdydd yn dal o fewn gafael diogelwch rhag syrthio i'r Bencampwriaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2019