Ymosodiad Y Borth: Cyhuddo dyn o geisio llofruddio
- Cyhoeddwyd

Mae'r dyn 71 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio a bod ag arf ymosodol yn ei feddiant ar ôl i ddyn 71 oed gael ei drywanu yng Ngheredigion.
Cafodd y dyn ei drywanu wrth fynd â'i gŵn am dro ger sŵ Wild Animal Kingdom yn Y Borth ar 28 Chwefror.
Mae'n parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Ddydd Mawrth, cafodd David Kenneth Fleet, 21 oed o'r Borth, ei gyhuddo o geisio llofruddio a bod â chyllell yn ei feddiant.
Yn Llys Ynadon Hwlffordd brynhawn Mawrth, ni wnaeth Mr Fleet gyflwyno ple, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa nes gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe fis Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2019