Cludo dyn i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl trywanu Y Borth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cychwyn ymchwiliad ar ôl i ddyn 71 oed gael ei drywanu yn Y Borth yng Ngheredigion.
Y gred yn wreiddiol oedd bod y dyn yn 60 oed.
Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty wedi iddo gael ei ymosod arno am tua 09:50 fore Iau wrth fynd â'i gŵn am dro ger sŵ Wild Animal Kingdom.
Mae'r heddlu wedi arestio dyn 21 oed mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dywedodd y Wild Animal Kingdom nad yw'r digwyddiad yn gysylltiedig â'r sŵ, ond bu un o lwybrau'r safle ar gau am gyfnod.
Cafodd anafiadau'r dyn eu disgrifio fel rhai difrifol.
Mae'r dyn 21 wedi ei arestio dan amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.
Yn ôl llygad dystion, Terry a Cerys Williams, a oedd yn ymweld â sŵ Y Borth adeg y digwyddiad, roeddent "deg, pymtheg metr o'r ddau ddyn" a hwythau "mewn sgarmes" ochr draw'r afon.
Dywedodd Mr Williams: "Clywon ni waedd am help, "Dwi 'di cael fy nhrywanu!", dwywaith. Yr ail waith glywais i fe, dyna pryd es i tu ôl i fan, a gweld nhw yno. Popeth yn digwydd. O fewn eiliadau."
Aeth Mr Williams i helpu'r heddlu, ac fe aeth Mrs Williams i gynorthwyo'r dyn cafodd ei drywanu.
"Rhedais yn syth draw, groes yr afon, a welais i'r dyn oedd wedi cael ei anafu ac es i syth mewn wedyn i gymorth cyntaf, tan gyrhaeddodd y paramedics i ddod i helpu'r dyn," meddai.
Dal i gasglu gwybodaeth
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, Jon Rees: "Mae presenoldeb yr heddlu wedi bod yn amlwg iawn yn y Borth ers y bore, ac mae swyddogion yn parhau i fod yn y pentref er mwyn cyflawni ymholiadau o ddrws i ddrws a chasglu rhagor o wybodaeth am yr ymosodiad.
"Cafodd arestiad ei wneud yn fuan iawn ar ôl i'r heddlu glywed am yr achos, ac fe hoffwn gadarnhau nac ydyn ni'n chwilio am neb arall ar hyn o bryd."