Cwmni Dawnus 'yn nwylo'r gweinyddwyr', medd is-gontractwr
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni adeiladu Dawnus wedi mynd i ddwylo gweinyddwyr, yn ôl is-gontractwr i'r cwmni yn Abertawe.
Cafodd gweithwyr eu galw i gyfarfod fore Iau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r cwmni, ond fe gawson nhw eu gweld yn symud offer o'r safle wedi iddyn gael eu hanfon adref ar ddiwedd y cyfarfod hwnnw.
Mae gwaith ailddatblygu gwerth £12m ar stop yng nghanol Abertawe am yr ail ddiwrnod yn olynol, yn sgil pryderon ynghylch dyfodol y cwmni, ac fe allai'r sefyllfa effeithio ar gynlluniau i godi tair ysgol ym Mhowys.
Mae'r BBC wedi gwneud cais am ymateb gan y cwmni.
'Ddim yn syndod'
Yn ôl un is-gontractwr, nad oedd am i BBC Cymru ei enwi, fe ddywedwyd wrth y gweithwyr yn y cyfarfod bod Dawnus wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Dywedodd is-gontractwr arall bod ei gwmni wedi clywed si am y trafferthion ac wedi tynnu ei holl offer o'r safle.
"Dwi'n meddwl ein bod wedi colli ychydig, ond yn ffodus nid swm sylweddol.
"Dwi'n meddwl ein bod ni'n lwcus o'i gymharu gyda beth dwi wedi ei glywed am gwmnïau eraill."
Mae Dawnus yn cyflogi cannoedd o weithwyr dros y DU ac wedi ennill sawl cytundeb amlwg gan gynnwys adeiladu tair ysgol newydd ym Mhowys.
Mae cyfrifon diweddara'r cwmni, sydd â'i bencadlys yn Abertawe, yn dangos trosiant o £170m yn 2017, ond hefyd colled o £1.35m cyn treth.
Daeth i'r amlwg ddydd Mercher fod gwaith ailddatblygu ardal Ffordd y Brenin yn Abertawe wedi dod i stop, gyda gorchymyn i weithwyr warchod y safle yn unig ac honiadau gan weithwyr nad oedden nhw wedi eu talu.
Dywedodd Cyngor Sir Abertawe cyn cyfarfod bore Iau eu bod nhw'n "monitro sefyllfa" y gwaith ailddatblygu gwerth £12m.
Ychwanegodd eu datganiad mai "prif ffocws y cyngor yw sicrhau fod gwaith ar brosiectau Ffordd y Brenin a'r uned cyfeirio disgyblion newydd yn parhau".
Dywedodd un is-gontractwr sy'n gweithio ar safle Ffordd y Brenin: "Cyrhaeddom ni'r gwaith bore 'ma [dydd Mercher] a wnaeth y fforman ein gyrru ni adref am weddill y dydd.
"Doedd o ddim yn syndod i fod yn onest, mae hyn wedi bod yn dod ers misoedd."
Oedi adeiladu ysgolion?
Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud wrth Cymru Fyw y gallai'r trafferthion ariannol sy'n wynebu Dawnus arwain at oedi o ran adeiladu tair ysgol newydd yn y sir.
Dawnus enillodd y cytundebau i fod yn brif gontractwr wrth godi adeilad newydd Ysgol Bro Hyddgen ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 19 oed ym Machynlleth, a dwy ysgol gynradd newydd yn Y Trallwng - ysgol Gymraeg ar gyfer 150 o ddisgyblion ac ysgol Saesneg ar gyfer 360 o ddisgyblion.
Dywed y cyngor mewn datganiad bod y gwaith adeiladu wedi hen ddechrau ar yr ysgol gynradd Saesneg gyda'r dyddiad cwblhau wedi'i bennu ar gyfer mis Medi eleni, ond bod y gwaith adeiladu eto i ddechrau ar y ddau brosiect arall.
Yn ôl yr aelod o gabinet Cyngor Powys sy'n gyfrifol am faterion addysg, y Cynghorydd Myfanwy Alexander mae'r awdurdod yn cadw golwg manwl ar y sefyllfa ond doedd y cwmni heb gysylltu â nhw yn ffurfiol.
"Mae Dawnus yn bartner allweddol yn nifer o'n prosiectau moderneiddio ysgolion a byddwn yn cydweithio i liniaru pa bynnag broblemau potensial sy'n codi."
Sïon wedi colledion
Roedd yna sïon bod Dawnus mewn trafferthion wedi adroddiadau bod y cwmni wedi gwneud colledion, yn ôl David Price, golygydd cyllid y cylchgrawn Construction News.
"Yn 2014-2015 fe wnaethon nhw golledion sylweddol o oddeutu £13m, mewn cysylltiad â gwaith yn Affrica, ac maen nhw wedi cael trafferth dod dros hynny," meddai.
Ychwanegodd bod y cwmni hefyd wedi cofnodi colled ariannol o £1.4m y llynedd.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford fod Dawnus yn "gwmni hollbwysig i ni yma yng Nghymru" a bod y sefyllfa yn un cymhleth dros ben.
"Fel llywodraeth rydyn ni'n cadw llygad ar bopeth ac yn gweithio gyda'n partneriaid ledled Cymru er mwyn tynnu pawb at ei gilydd a helpu ble allwn ni," meddai.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ymysg y cyrff a chwmnïau eraill sydd â chytundebau gyda'r cwmni o Abertawe.
Yn ôl Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Gweithredol CNC, mae gan y cwmni chwe chytundeb gyda Dawnus ar hyn o bryd.
"Mae mwyafrif y gwaith wedi ei gwblhau ond dyw rhannau eraill heb ddechrau eto.
"Rydyn ni'n siarad yn gyson gyda Dawnus ac yn asesu beth yn union yw'r ffordd orau i symud 'mlaen gyda'r gwaith sydd ar ôl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2018