Adran 2: Casnewydd 1-0 Cheltenham
- Cyhoeddwyd

Padraig Amond o Gasnewydd yn ceisio cael y gorau ar Charlie Raglan o'r gwrthwynebwyr
Gôl gan yr ymwelwyr i'w rhwyd eu hunain wnaeth sicrhau tri phwynt i Gasnewydd yn Rodney Parade nos Wener.
Amddiffynnwr Cheltenham, Chris Hussey, wnaeth sgorio unig gôl y gêm a hynny wedi i'r bêl ei daro ar ôl i'r golwr, Scott Flinders arbed ergyd uchel gan Padraig Amond.
Roedd yr ymwelwyr i lawr i 10 dyn wedi 75 o funudau pan gafodd Will Boyle gardyn coch am lorio Jamille Matt.
Llwyddodd y tîm cartref i wrthsefyll sawl ymosodiad ym munudau olaf y gêm wrth i Cheltenham geisio unioni'r sgôr.
Mae'r fuddugoliaeth yn cadw'r gobeithion yn fyw o sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle, gyda Chasnewydd yn codi o'i 13eg safle i'r 11eg safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2019