Trafodaethau am uno rhanbarthau i ailddechrau dydd Llun

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn Jones a Jonathan DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd y trafodaethau ynglŷn â dyfodol rhanbarthau rygbi Cymru yn ailddechrau dydd Llun, yn ôl Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru.

Dywedodd Gareth Davies ar raglen Dewi Llwyd, BBC Radio Cymru fod y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) yn cyfarfod am 11:00.

Mae cryn dipyn o ddryswch wedi bod ynglŷn â chynlluniau posib i ad-drefnu'r gêm yng Nghymru - sy'n cynnwys uno dau ranbarth a chreu un newydd yn y gogledd.

Yn ôl Mr Davies, mae angen "edrych ar y darlun mawr" os yw'r gêm ranbarthol yng Nghymru am symud ymlaen.

Dywedodd y cadeirydd bod angen i'r rhanbarthau "adeiladu'r berthynas rhyngddynt" wedi'r dryswch dros yr wythnosau diwethaf.

"Dwi'n credu bod yr ysbryd yno i wneud hynny... a gobeithio bydd modd iddyn nhw symud 'mlaen gyda'r cynllun," meddai.

"Yn y dyfodol agos dwi'n meddwl bydd raid i ni aros fel i ni, ond bydd rhaid cytuno ar beth fydd y model iawn."

Ychwanegodd Mr Davies ei fod yn bwriadu siarad gydag awdurdodau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ynglŷn â newid y rheolau am gau to'r stadiwm.

Ar hyn o bryd mae gofyn i'r ddau dîm gytuno cyn bod modd cau to'r stadiwm.