Cyhoeddi cynlluniau i warchod natur wedi Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu cynlluniau i sicrhau nad yw'r gwaith o amddiffyn bywyd gwyllt a'r amgylchedd yn cael ei golli ar ôl Brexit.
Y bwriad, yn ôl swyddogion, ydy cynnal a gwella safonau presennol.
Ond fe fydd ymgynghoriad 12 wythnos hefyd yn cael ei gynnal i ofyn sut y dylid ymchwilio i achosion posib o dorcyfraith amgylcheddol yn y dyfodol.
Mae grwpiau natur wedi rhybuddio bod amser i gael y mesurau diogelu hyn yn eu lle yn prinhau.
Yn Lloegr mae Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Michael Gove, eisoes wedi cynnig creu cyfer corff annibynnol newydd - Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd.
Ond nid yw Lesley Griffiths, y gweinidog yng Nghymru, yn argyhoeddedig bod y dull hwn yn angenrheidiol.
Mae'n dweud bod Cymru eisoes mewn sefyllfa "wahanol iawn" i weddill y DU a bod y "fframwaith yma eisoes yn fwy cyson â'r Undeb Ewropeaidd beth bynnag".
Mae hi'n credu nad yw'r cynlluniau ar gyfer Lloegr yn gydnaws â phwerau datganoli Cymru na deddfwriaeth bresennol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru y bydd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol - sy'n gyfrifol am sicrhau bod yr amgylchedd ar flaen y gad wrth wneud penderfyniadau - rôl bwysig yn y dyfodol.
Mae hefyd yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â rhai bylchau yn y ddeddfwriaeth bresennol, gan ategu bod y gorchwyl o ddatblygu deddfwriaeth angenrheidiol yn un "parhaus".
Wrth ysgrifennu at bwyllgor Cynulliad fis diwethaf, dywedodd Ms Griffiths, gyda'r posibilrwydd o "ganlyniad trychinebus Brexit heb gytundeb", y flaenoriaeth oedd sicrhau bod cyfreithiau ymarferol ar waith i ddarparu sefydlogrwydd a chynnal safonau amgylcheddol.
'Niweidio amddiffynfeydd'
Mae grŵp cadwraeth WWF Cymru eisoes wedi rhybuddio y gallai'r broses "niweidio rhai o'r amddiffynfeydd amgylcheddol presennol".
Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu y bydd y safonau amgylcheddol presennol yn parhau i fod yn gymwys o'r diwrnod ymadael.
Mae'r ymgynghoriad - a fydd yn rhedeg tan 9 Mehefin - yn ceisio casglu barn ar lenwi'r bylchau a fydd o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Ms Griffiths y byddai hefyd achosion lle byddai'n bwysig bod pob un o bedair gwlad y DU yn cydweithio.
Dywedodd ei fod yn fater cymhleth a oedd yn haeddu sylw gofalus.
"Fel llywodraeth, rydym yn benderfynol o sicrhau nad oes unrhyw ostyngiad yn y safonau amgylcheddol hyn a byddwn yn parhau i wella rheoleiddio amgylcheddol ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2017