'Heriau cyllidol' i wynebu Comisiynydd y Gymraeg newydd

  • Cyhoeddwyd
Meri Huws

Bydd "heriau cyllidol" yn wynebu deilydd nesaf swydd Comisiynydd y Gymraeg, yn ôl Meri Huws.

Wrth drafod ei saith mlynedd yn y rôl ar raglen y Post Cyntaf fore Mercher, dywedodd Ms Huws bod cyllideb y comisiynydd wedi gweld toriadau niferus dros y blynyddoedd.

Dywedodd bod hefyd angen "edrych o ddifrif" ar y system addysg i sicrhau mwy o siaradwyr Cymraeg a gweithio tuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Daw cyfnod Ms Huws yn y swydd i ben ddiwedd y mis, a'r cyn-Aelod Cynulliad Aled Roberts fydd yn ei holynu.

Toriadau wedi 'rhwystro gwaith'

Dywedodd Ms Huws bod toriadau i'w chyllideb wedi "rhwystro gwaith y byswn i wedi dwli ei wneud".

Esboniodd i swyddfa'r comisiynydd golli chwarter y gyllideb yn ystod ei phedair blynedd gyntaf wrth y llyw.

"Fe fyddwn ni wedi dymuno gwneud llawer mwy o waith hybu a hwyluso'r iaith, y math o waith yr ydyn ni wedi bod yn ei wneud gyda'r sector chwaraeon a gyda'r sector gelfyddydau.

"Gwneud pethau creadigol, denu pobl i mewn i ddefnyddio'r Gymraeg."

Yn ôl Ms Huws: "Mae heriau cyllidol yn mynd i wynebu'r comisiynydd nesaf.

"Mae'r un gyllideb sy' gyda ni o hyd yn gyllideb fflat ar gyfer y flwyddyn nesa'."

Ychwanegodd y byddai wedi bod "wrth ei bodd" yn gweld mwy o sefydliadau yn gallu dod at ei gilydd o dan y safonau, a petai wedi gallu "gwario mwy ar yr elfen hwyluso a hyrwyddo yna", gan gynnal "mwy o ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth [sefydliadau] am eu hawliau".

'Lot o waith i'w wneud'

Fodd bynnag, mae'n parhau'n obeithiol am gyrraedd y targed a osododd Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Yn ôl Ms Huws, mae angen "edrych o ddifrif ar y system addysg cyn 16 er mwyn sicrhau ein bod ni yn creu siaradwyr".

"Mae angen i ni ddelio 'efo'r hyn sydd wedi ei alw yn 'Gymraeg ail iaith' sydd dim wedi bod yn effeithiol o ran creu siaradwyr," meddai.

"Wedyn mae angen i ni sicrhau bod y siaradwyr ydym ni yn eu creu yn parhau yn siaradwyr, trwy eu tywys trwodd i'r byd gwaith ac i fagu eu teuluoedd eu hunain.

"Mae 'na lot o waith i'w wneud ond 'swn i'n deud mai'r byd addysg yw 90% o'r ateb i'r cwestiwn."

'Creisis cenedlaethol'

Wrth ymateb i sylwadau'r comisiynydd dywedodd pennaeth ysgol uwchradd yn y de ar raglen Taro'r Post ei bod hi'n "greisis cenedlaethol" o safbwynt recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd: "Fel prifathro ysgol yn y cymoedd fy nghonsyrn penna' i yw o le daw mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg i ni gael yn ein dosbarthiadau.

"Mae hwn yn fy marn i yn greisis cenedlaethol. Does neb yn mynd i'r afael â hi.

"Oes mae 'na gynllun i gynnig arian ychwanegol i bobl sy'n dod mewn i'r proffesiwn ond does neb yna i sicrhau bod 'na isafswm o bobl yn dilyn pob pwnc craidd neu pob pwnc o fewn y prifysgolion sy'n cynnig hyfforddiant i ddarpar athrawon."

Wrth ymateb i sylwadau Meurig Jones dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y "Gymraeg yn ganolog" i'r cwricwlwm newydd a byddai dros £6m y ncael ei wario "i gyflwyno hyfforddiant drwy'r Gymraeg i athrawon a staff cymorth".

"Rydyn ni hefyd yn estyn ein cynllun cymhelliant hyfforddi athrawon a fydd yn darparu hyd at £25,000 i athrawon a fydd yn mynd yn eu blaen i addysgu drwy'r Gymraeg."