Atal timau rygbi Prifysgol De Cymru wedi pryder ymddygiad

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol De CymruFfynhonnell y llun, Google

Mae holl dimau rygbi dynion mewn prifysgol wedi eu hatal rhag chwarae yn dilyn pryderon am ymddygiad.

Dywedodd Prifysgol De Cymru bod nifer o fyfyrwyr wedi eu gwahardd wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Dywedodd llefarydd ei fod yn bosib bod rhai myfyrwyr sydd ynghlwm â thimau rygbi dynion "yn rhan o ymddygiad sy'n anghydnaws" â'r disgwyliadau.

Mae pryderon wedi eu hadrodd i undeb y myfyrwyr, y brifysgol a'r heddlu - sy'n ymchwilio.

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "Mae Prifysgol De Cymru yn disgwyl y safonau uchaf o ymddygiad personol gan aelodau o gymuned y brifysgol ac nid ydym yn goddef ymddygiad sydd ddim yn cyrraedd y safon yna."

Dywedodd Heddlu De Cymru bod staff o'r brifysgol wedi rhannu gwybodaeth gyda'i swyddogion, a bod ymchwiliad yn parhau.

Mae gan y brifysgol gampysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Threfforest.