Llywodraeth Cymru wedi rhoi benthyciad i gwmni Dawnus

  • Cyhoeddwyd
Dawnus

Mae Gweinidog yr Economi wedi cadarnhau fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi benthyciad o £3.5m i gwmni Dawnus yn 2018 er mwyn datrys problemau ariannol.

Yr wythnos ddiwethaf aeth cwmni adeiladu Dawnus i ddwylo gweinyddwyr.

Dyw £1.5m o'r benthyciad masnachol ddim wedi'i ad-dalu gan y cwmni o Abertawe ond dywed Ken Skates ei fod yn hyderus y bydd Llywodraeth Cymru yn cael yr arian yn ôl.

'Dulliau benthyca'r Llywodraeth?'

Mae'r Ceidwadwr Russell George wedi dweud fod y ddyled yn codi cwestiynau ynglŷn a pholisïau benthyca Llywodraeth Cymru.

Mae nifer o brosiectau, gan gynnwys ailddatblygu canol Abertawe, wedi'u hatal am y tro wedi i Dawnus fynd i ddwylo gweinyddwyr.

Ddydd Mercher dywedodd Cyngor Abertawe eu bod yn gobeithio cwblhau cytundeb gyda chwmni perianyddol Griffiths er mwyn sicrhau bod y gwaith yn ailddechrau.

Roedd Dawnus yn cyflogi 700 o bobl.

Disgrifiad o’r llun,

Gweithwyr yn gadael safle Dawnus yn Abertawe gyda'u hoffer wedi'r cyfarfod gyda rheolwyr ben bore Iau

Dywedodd Mr Skates wrth ACau fod y trafferthion wedi cael effaith ar 455 o gyflenwyr yng Nghymru - gwerth £6m.

Dywedodd llefarydd bod arian cyfatebol yn cael ei roi gan fanc y cwmni er mwyn "cefnogi y cwmni, y staff a'r rhai oedd yn cyflenwi deunyddiau i'r cwmni ar draws Cymru".

Ychwanegodd bod £2m o'r benthyciad o £3.5m wedi cael ei ad-dalu a bod y Llywodraeth yn hyderus "y bydd gweddill yr arian yn cael ei ad-dalu gydag amser".

'Helpu mewn cyfnod anodd'

Dywedodd Ken Skates AC bod y benthyciad wedi cael ei gynnig "er mwyn helpu busnesau a'u staff... mewn cyfnod anodd cysylltiedig â llif arian" a'i fod yn hyderus y bydd gweddill yr arian sy'n ddyledus yn cael ei dalu.

"Ar y funud hon," meddai, "rhaid i'n sylw fod ar staff ac is-gontractwyr sy'n cael eu heffeithio gan ddatblygiadau diweddaraf Dawnus.

"Ry'n am sicrhau fod dirwyn y cwmni i ben yn cael cyn lleied o effaith â phosib."

Dywedodd Suzy Davies, AC Gorllewin De Cymru, fod y ffydd yr oedd cynghorau wedi'i roi yn y cwmni yn seiliedig ar ffydd Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod archwiliadau manwl wedi'u cynnal i'r cwmni mewn cydweithrediad â banc Dawnus.

Dywedodd Russell George, llefarydd y Ceidwadwyr, bod y ddyled yn codi cwestiynau am ddulliau benthyg Llywodraeth Cymru a bod hi'n bryder bod cynifer o swyddi a phrosiectau yn y fantol oherwydd cwymp Dawnus.

"Mae'r newyddion diweddaraf am y benthyciad," meddai, "yn gwaethygu pethau".

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru nad oeddynt yn ymddiheuro am fuddsoddi yn y cwmni o Gymru.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd disgwyl agor un o'r ysgolion cynradd newydd sy'n cael ei hadeiladu gan Dawnus yn y Trallwng ym Medi 2019

Mae gwaith ar dair ysgol ym Mhowys yn wynebu oedi oherwydd cwymp y cwmni.

Mae gweinyddwyr o gwmni cyfrifwyr Grant Thornton, sydd bellach yn rheoli cwmni Dawnus, wedi cysylltu â Chyngor Sir Powys ynglŷn â'r gwaith.