Gêm gyfeillgar: Cymru 1-0 Trinidad a Tobago
- Cyhoeddwyd
Roedd gôl hwyr gan Ben Woodburn yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i dîm Ryan Giggs yn erbyn Trinidad a Tobago yng ngêm gyntaf Cymru ar y Cae Ras ers 2008.
Roedd nifer o enwau mawr y garfan yn absennol, gyda chwaraewyr fel Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen ddim hyd yn oed ymysg yr eilyddion.
Dyma oedd y tro cyntaf i Gymru chwarae yn Wrecsam ers iddyn nhw drechu Norwy yn Chwefror 2008.
O flaen torf o 10,326 o gefnogwyr fe gymrodd 92 munud i dîm Giggs ganfod gôl yn erbyn gwlad sy'n 93ain yn netholion y byd.
Daeth y cyfle da cyntaf yn dilyn croesiad da gan Chris Gunter, ond llwyddodd y golwr Marvin Phillip i arbed ergyd yr asgellwr Ryan Hedges.
Fe wnaeth pwysau Cymru ddwysau wrth i'r hanner cyntaf fynd ei flaen, gyda George Thomas hefyd yn taro ergyd aeth yn agos ond dros y trawst, ond roedd hi'n ddi-sgôr ar hanner amser.
Thomas gafodd gyfle cyntaf yr ail hanner hefyd, gyda'i ergyd angen arbediad arall gan Phillip.
Cafodd yr ymwelwyr eu cyfle cyntaf yn fuan wedi hynny, gyda Gunter yn atal ergyd Aubrey David rhag croesi'r llinell gôl.
Llwyddodd Thomas i benio i'r rhwyd yn dilyn 66 munud ond cafodd ei ddyfarnu ei fod yn camsefyll.
Roedd hi'n edrych yn debyg fel y byddai'n gorffen yn ddi-sgôr cyn i Woodburn llwyddo i gael y bêl dros y llinell gôl yn dilyn croesiad Will Vaulks.
Fe wnaeth dau chwaraewr ennill eu capiau rhyngwladol cyntaf, gyda chwaraewr canol cae Rotherham, Vaulks yn dechrau'r gêm a golwr Barnsley, Adam Davies yn cymryd lle Danny Ward yn ystod yr egwyl.
Bydd y tîm yn teithio i Gaerdydd yn y dyddiau nesaf ble byddan nhw'n dechrau eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2020 yn erbyn Slofacia brynhawn Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2019