Teulu'n rhoi teyrnged i athrawes Ysgol Plasmawr fu farw

  • Cyhoeddwyd
elin boyleFfynhonnell y llun, Heddlu'r De
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Elin Boyle yn athrawes yn Ysgol Plasmawr, Caerdydd

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau mai corff athrawes o Gaerdydd gafodd ei ddarganfod ym Mro Morgannwg ddydd Sul.

Cafodd corff Elin Boyle, 43 oed, ei ddarganfod yn Nash Point ar arfordir Bro Morgannwg ar 17 Mawrth.

Roedd yr heddlu yn pryderu am ddiogelwch Ms Boyle gan nad oedd unrhyw un wedi ei gweld ers iddi adael ei chartref yn ardal Danescourt, Caerdydd ar 12 Mawrth.

Dywedodd ei theulu mewn datganiad eu bod yn teimlo'n "ofnadwy o drist" ar ôl colli person "wirioneddol arbennig".

'Dawn i wneud i eraill deimlo'n well'

"Mae'n anodd disgrifio pa mor boenus yw colli un annwyl drwy'r salwch meddyliol creulon hwn y bu rhaid i Elin frwydro yn ei erbyn am dros 25 o flynyddoedd," meddai'r teulu mewn datganiad.

"Hoffem ddiolch i Heddlu De Cymru a thimau achub yr arfordir am eu holl help a'u cefnogaeth wrth geisio dod o hyd i Elin, nid yn unig y tro hwn ond hefyd ar achlysuron blaenorol ac i staff a disgyblion Ysgol Plasmawr am eu cefnogaeth gyson i ni fel teulu.

"Roedd hi'n berson wirioneddol arbennig a thrueni mawr nad yw yma i weld yr holl gariad sy'n cael ei fynegi amdani.

"Roedd ganddi'r ddawn i wneud i eraill deimlo'n well ac yn hapus a byddai'n mynd y filltir ychwanegol i helpu eraill.

"Ein hunig gysur yw bod Elin bellach mewn hedd. Cysga'n dawel."

Nid yw'r heddlu'n trin y farwolaeth fel un amheus.