Dyn yn cerdded 200 milltir i brotestio yn erbyn Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cerdded 200 milltir i fynychu gorymdaith Pleidlais y Bobl yn Llundain ddydd Sadwrn i godi ymwybyddiaeth ac ymwneud â chefnogwyr Brexit.
Fe wnaeth Ed Sides ddechrau ar ei daith o Abertawe dros bythefnos yn ôl, a dywedodd ei fod wedi "cymryd yr amser i wrando yn ogystal â siarad".
Mae grŵp Cymru Dros Ewrop yn dweud eu bod wedi trefnu 30 o fysiau i gludo protestwyr i'r digwyddiad yn Hyde Park.
"Fe wnes i ddechrau'r daith i godi ymwybyddiaeth am ein hachos, ond hefyd i ddangos, os ydych chi'n angerddol am rywbeth, dyw hynny ddim yn golygu nad ydych chi'n fodlon gwrando ar bobl sydd â barn wahanol," meddai.
"Rydyn ni angen trafodaeth fwy rhesymol am Brexit, a pob man rydw i wedi stopio ar y daith rydw i wedi cymryd yr amser i wrando yn ogystal â siarad."
Yn y refferendwm yn 2016 fe wnaeth Cymru bleidleisio o blaid gadael, ond mae cyfarwyddwr Cymru Dros Ewrop, Peter Gilbey, yn credu bod y farn honno wedi newid ers hynny.
"Dyw'r ddadl y byddai refferendwm arall yn mynd yn erbyn ewyllys y bobl ddim yn gwneud unrhyw synnwyr," meddai.
"Sut all cael mwy o wybodaeth a mwy o siawns i ddweud ein dweud fod yn llai democrataidd?"
'Refferendwm arall yn datrys dim'
Ond dywedodd Fred Jones, adeiladwr o Abertawe, bod dadleuon rhai pobl sydd o blaid aros yn nawddogi'r rheiny bleidleisiodd i adael.
"Dydw i ddim yn angerddol yr un ffordd na'r llall, ond rydw i wedi cael digon ar bobl yn dweud mai dim ond pobl hŷn, neu bobl dwp oedd ddim yn gwybod am beth oedden nhw'n pleidleisio oedd eisiau gadael," meddai.
"Ro'n i'n gwybod y byddai gadael yn gwneud pethau'n anodd yn y tymor byr, ond yn y pendraw yn galluogi Prydain i benderfynu dros ein hunain sut wlad dy'n ni eisiau bod."
"Ond y prif reswm dydw i ddim yn cefnogi refferendwm arall yw y bydd yn datrys dim - fe fyddwn ni'n cael yr un dadleuon ymhen tair blynedd arall."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2019