Gweinidog Iechyd: 'Angen refferendwm arall ar Brexit'

  • Cyhoeddwyd
Vaughan Gething
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Vaughan Gething nad yw'r prif weinidog wedi dweud hyd yma a fydd yn rhaid iddo ymddiswyddo o'r cabinet

Mae aelod blaenllaw o Lywodraeth Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru y dylid cynnal refferendwm arall ar Brexit.

Mae safiad y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn mynd yn groes i farn y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Ddydd Mawrth dywedodd Mr Drakeford y byddai cael refferendwm arall yn creu rhaniadau a ddim yn dod i benderfyniad.

Ond mae Mr Gething yn dweud ei fod am "i'r bobl gael dewis rhwng y realiti o adael... a'r potensial i ailfeddwl".

Ychwanegodd ein bod yn "gwybod llawer mwy" bellach bron dair blynedd ers i'r DU bleidleisio dros Brexit a mai "fy marn bersonol i yw bod y cyhoedd yn haeddu cyfle arall i wneud y dewis hwnnw".

Rhaniadau

Yn gynharach eleni fe basiodd y Cynulliad, gyda chefnogaeth Llafur a Phlaid, gynnig fod gwaith yn cael ei wneud yn syth ar bôl newydd.

Ond barn Llywodraeth Cymru o hyd yw y dylai Llywodraeth y DU gael y cyfle i gyrraedd cytundeb cyn galw am refferendwm arall.

Yr wythnos ddiwethaf, adroddodd y BBC bod rhaniadau o fewn cabinet Llywodraeth Cymru, ac fe alwodd un ffynhonnell Lafur flaenllaw ar Mr Drakeford i wneud y sefyllfa yn glir.

Wrth ymateb ddydd Mercher, dywedodd Mr Gething fod "amrywiol safbwyntiau - mae gan aelodau'r llywodraeth farn amrywiol ar nifer o faterion".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford wedi dweud y byddai refferendwm arall yn creu rhaniadau

Dros y penwythnos mae disgwyl i filoedd o bobl orymdeithio yn Llundain o blaid 'Pleidlais y Bobl'. Mae Mr Gething wedi dweud ei fod yn noddi dau fws i fynd â phobl o dde Cymru i Lundain.

"Dyma fater pwysicaf ein cyfnod," meddai, "ac nid ydych fel arfer yn cael gweinidogion y llywodraeth yn gorymdeithio.

"Mi fyddai i'n mynd gan fy mod yn credu ei fod e'r peth iawn i'w wneud."

'Mae'r prif weinidog yn gwybod'

Dywed Mr Gething fod y prif weinidog yn gwybod ei fod am fynd ar yr orymdaith ond nad yw wedi dweud a fydd yn ofynnol iddo adael ei swydd fel gweinidog iechyd.

Dywedodd: "Mae'r prif weinidog yn gwybod fy mod yn mynd i orymdeithio.

"Dyw e ddim wedi dweud wrthai na fyddai i yn y llywodraeth - dyw e ddim wedi dweud wrthai ei fod yn beth gwych neu wael. Ond mae e'n ymwybodol fy mod yn mynd."

Yn y cynulliad yn ddiweddarach fe ofynnodd yr AC Ceidwadol Darren Millar i'r gweinidog Brexit Jeremy Miles a yw e'n credu y dylai gweinidog sydd yn mynd yn groes i safiad y llywodraeth ymddiswyddo.

Dywedodd Mr Millar: "Yn amlwg mae'r gweinidog iechyd am drefnu bysys ond dyw e ddim ar yr un bws â Llywodraeth Cymru."

Safodd Mr Gething yn erbyn Mr Drakeford yn y ras i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru y llynedd - ac roedd ei ymgyrch yn canolbwyntio ar gael refferendwm Brexit arall.

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif weinidog: "Os yw'r prif weinidog yn credu fod presenoldeb Vaughan Gething yn yr orymdaith ddim yn cydfynd â'i rôl fel gweinidog, mi fyddai wedi dweud hynny wrtho."