Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-1 Hartlepool

  • Cyhoeddwyd
Y Gynghrair GenedlaetholFfynhonnell y llun, Lluniau Getty

Mae gobeithion Wrecsam i ennill teitl y tymor hwn wedi cael cnoc arall wrth iddyn nhw golli o 1-0 yn Hartlepool.

Dechreuodd y Dreigiau'n gryf cyn iddyn nhw ildio cic gosb wedi 24 munud wedi tacl flêr Shaun Pearson ar Josh Hawkes,

Er bod Rob Lainton, gôl-geidwad Wrecsam, yn cael mwy na llaw gadarn i'r bêl fe sicrhaodd Hawkes ei bedwaredd gôl mewn pedair gêm.

Ac er i'r Dreigiau ymosod ar sawl achlysur roedd yr ymdrechion yn ofer, gyda'r tîm cartref yn sicrhau'r fuddugoliaeth a'r tri phwynt.

Mae Wrecsam yn parhau yn y trydydd safle, bwynt y tu ôl i arweinwyr Leyton Orient sydd a thair gêm mewn llaw hefyd.