Gemau Rhagbrofol Euro 2020: Cymru 1-0 Slofacia

  • Cyhoeddwyd
Dan JamesFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cymru'n dathlu gôl gyntaf y prynhawn gan Dan James

Mae Cymru wedi ennill eu gêm ragbrofol gyntaf ym Mhencampwriaeth Euro 2020 o 1-0 yn erbyn Slofacia, diolch i gôl yn ystod pum munud cynta'r gêm.

Dyma oedd gôl gyntaf Dan James dros Gymru, ar ei ymddangosiad llawn cyntaf i'w wlad hefyd.

Disgrifiad,

Roedd Joe Allen wrth ei fodd fod Cymru wedi ennill eu gêm ragbrofol gyntaf

Roedd yna sawl cyfle arall i'r tîm cartref, wrth iddyn nhw bwyso'n gyson yn erbyn yr ymwelwyr.

Ond er waetha sawl ymgais at y gôl, gan gynnwys chwe ymdrech gan Gareth Bale, fe fethodd tîm Ryan Giggs ag ymestyn eu mantais.

Bu'n rhaid i Wayne Hennessey wneud sawl arbediad i rwystro Slofacia rhag dod yn gyfartal yn y deg munud olaf.

Mae Cymru ar frig tabl grŵp E, ar y blaen i Slofacia a Croatia ar wahaniaeth goliau, gyda Croatia yn herio Hwngari yn nes ymlaen ddydd Sul.

Ffynhonnell y llun, Lluniau Getty
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd gôl gyntaf Dan James i Gymru ar ei ymddangosiad llawn cyntaf hefyd

Dyma oedd y dechrau gorau posib i ymgyrch Cymru wrth iddyn nhw geisio efelychu eu llwyddiant adeg pencampwriaeth Ewro 2016.

Fe benderfynodd Giggs roi ei ffydd yn rhai o'i chwaraewyr ifanc, gan ddewis James Lawrence o flaen Ashley Williams, a hefyd fe roddodd y dechreuad llawn cyntaf i asgellwr yr Elyrch Dan James.

Roedd gan saith o'r chwaraewyr a ddechreuodd brynhawn Sul lai na 10 o gapiau yr un.

A James, gyda'r capten Gareth Bale, Harry Wilson a David Brooks fu'n gyfrifol am achosi dryswch i amddiffyn Slofacia yn fuan yn y gêm, drwy gyfnewid safleoedd yn aml, ac a wnaeth yn y pen draw ganiatáu i James daro ergyd isel heibio'r gôl-geidwad Martin Dubravka, a'r bêl yn mynd i gefn y rhwyd.

Bu Cymru'n ffodus i beidio ac ildio gôl wrth i Robert Mak daro'r bêl tuag at y rhwyd, gyda Wayne Hennesey yn arbed unwaith eto.

Ac fe fu'n rhaid i sawl un o'r crysau cochion osod eu hunain o flaen eu gôl er mwyn rhwystro ymgeisiadau cynyddol Slofacia yn y munudau olaf.

Ffynhonnell y llun, Lluniau Getty
Disgrifiad o’r llun,

Fe darodd capten Cymru, Gareth Bale, sawl ergyd yn agos at gôl Slofacia.

Tîmau heddiw:

Cymru: Hennessey, Connor Roberts, Mepham, Jamie Lawrence, Ben Davies, Allen, Smith, Wilson, Brooks, James, Bale (Ward, Gunter, Dummett, Williams, Tyler Roberts, John, Matondo, Vaulks, Hedges, Woodburn, Thomas, Adam Davies).

Slofacia: Dubravka, Pekarik, Vavro, Skriniar, Hancko, Kucka, Lobotka, Hamsik, Rusnak, Duda, Mak (Kozacik, Stetina, Satka, Gregus, Mihalik, Stoch, Bero, Hrosovsky, Chrien, Safranko, Duris, Rodak).

Dyfarnwr: Felix Zwayer (Yr Almaen)

Cardiau melyn: Cymru 2 (Allen, Brooks) Slofacia 7