Cymru'n dechrau eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2020

  • Cyhoeddwyd
Cymru v SlofaciaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymru oedd yn fuddugol y tro diwethaf i'r ddwy wlad gwrdd, yn Euro 2016

Bydd Cymru'n dechrau eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2020 wrth iddyn nhw herio Slofacia yng Nghaerdydd brynhawn Sul.

Fe wnaeth tîm Ryan Giggs drechu Trinidad a Tobago mewn gêm gyfeillgar yn Wrecsam nos Fercher - gêm gyntaf Cymru ar y Cae Ras ers 2008.

Ond does dim disgwyl i lawer o chwaraewyr, os yr un, i gadw eu lle ar gyfer y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Roedd nifer o enwau mawr y garfan yn absennol ar gyfer y gêm honno, gyda chwaraewyr fel Gareth Bale, Joe Allen a Ben Davies yn cael eu harbed am y tro.

Ond mae paratoadau Cymru wedi cael eu heffeithio gan anafiadau hefyd, gyda chadarnhad dydd Sadwrn bod Aaron Ramsey wedi dychwelyd i'w glwb Arsenal er mwyn cael triniaeth.

Mae Ethan Ampadu, Tom Lawrence a Sam Vokes wedi tynnu 'nôl o'r garfan hefyd oherwydd anafiadau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ben Woodburn sgoriodd y gôl fuddugol yn erbyn Trinidad a Tobago nos Fercher

"Mae hi'n gêm fawr, ond dyma un o'r prif resymau pam ro'n i mor gyffrous i gymryd y swydd," meddai Giggs.

"Ro'n i eisiau bod yn rhan o ymgyrch ragbrofol a nawr ry'n ni'n cael y cyfle hynny."

'Grŵp o safon uchel'

Ychwanegodd yr asgellwr David Brooks, a enillodd wobr chwaraewyr y flwyddyn a chwaraewr ifanc y flwyddyn yng Ngwobrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru nos Iau, ei fod yn edrych ymlaen at fod yn aelod blaenllaw yn y tîm am ymgyrch llawn.

"Pan wnes i ddechrau chwarae yn yr ymgyrch ddiwethaf roedd hi'n dod at ei diwedd, felly mae bod yno o'r dechrau y tro yma'n gyffrous," meddai.

"Rwy'n meddwl bod ein gemau i gyd yn rhai anodd - mae'n grŵp o safon uchel - felly bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau ym mhob gêm.

"Ond fe fyddan ni'n mynd mewn i'r gêm ddydd Sul, a phob un arall, gyda'r hyder ein bod yn gallu ennill."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

O'i 10 gêm wrth y llyw, mae Ryan Giggs wedi ennill pedair bellach

Mae amddiffynnwr Abertawe, Connor Roberts, wedi dweud bod y garfan wedi bod yn gwylio uchafbwyntiau Cymru yn Euro 2016 i gael ysbrydoliaeth ar gyfer yr ymgyrch newydd.

Llwyddodd Cymru i wneud yn llawer gwell na'r disgwyl yn Euro 2016 yn Ffrainc, gan gyrraedd y rownd gynderfynol.

Honno oedd y tro cyntaf i Gymru gyrraedd un o'r prif bencampwriaethau ers 1958, ac ar ôl colli allan ar le yng Nghwpan y Byd y llynedd bydd y garfan yn awchu i gael gwell ymgyrch dros y flwyddyn nesaf.

'Dim ffliwc oedd Euro 2016'

"Y diwrnod o'r blaen fe wylion ni uchafbwyntiau Euro 2016 ac roeddwn i ar ymyl fy sedd," meddai Roberts.

"Rydw i eisiau bod yn rhan o hynny, ac mae David Brooks, Harry Wilson a gweddill y chwaraewyr ifanc eisiau hynny hefyd.

"Rwy'n meddwl bod y bois eisiau profi nad ffliwc oedd honno a'n bod yn ddigon da i gyrraedd cystadleuaeth arall."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r garfan wedi bod yn gwylio uchafbwyntiau Cymru yn Euro 2016 er mwyn cael ysbrydoliaeth

Fe ddechreuodd taith anhygoel Cymru yn Ffrainc gyda buddugoliaeth o 2-1 dros Slofacia yn Bordeaux, ac mae Roberts yn dweud bod y garfan yn ymwybodol y bydd eu gwrthwynebwyr eisiau "dial" am y gêm honno.

Fe wnaeth Slofacia ddechrau eu hymgyrch nos Iau, gyda buddugoliaeth o 2-0 gartref dros Hwngari.

Bydd y gic cyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 14:00 brynhawn Sul.