Tân mewn ward ganser yn Ysbyty Singleton, Abertawe
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid symud 36 claf yn dilyn tân mewn ward oncoleg yn Ysbyty Singleton, Abertawe, nos Sul.
Cadarnhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg na chafodd neb eu hanafu yn sgil y tân ar Ward 12, ond bod ambell un sydd wedi anadlu mwg yn cael eu monitro.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, aeth ymladdwyr i ddelio gyda thân mewn ystafell ar chweched llawr yr adeilad toc cyn 21:45 nos Sul.
Cadarnhaodd y gwasanaeth bod yr heddlu hefyd wedi'u galw.
Bydd Ward 12 yn parhau ar gau er mwyn i'r difrod gael ei asesu.
'Ofn go iawn'
Dywedodd Shona Hammond Smith, 20 oed, ei bod hi mewn ward yn yr ysbyty pan ddechreuodd y larwm tân.
"Fe wnaethom godi o'n gwelyau er mwyn gadael, ond dywedodd staff wrthym i aros yn ein hystafelloedd.
"Roeddem yn gallu gweld goleuadau glas yn fflachio ac fe wnaeth dwy injan dân gyrraedd, ac roedd dwy arall ar fin cyrraedd," meddai.
"Roedd yna lot o ddiffoddwyr yn rhedeg i'r safle. Ar un adeg doedden ni ddim yn gwybod pa mor fawr oedd y tân, ac felly roedd yna ofn go iawn.
"Cafodd rhai cleifion eu symud o un ward i'n ward ni.
"Fe wnaeth y cyfan bara am awr a hanner.
"Roedd y nyrsys yn dda iawn, gan ein sicrhau fod popeth yn iawn ac yn gwneud i ni deimlo yn ddiogel.
Asesu difrod
Rhybuddiodd Chris White, prif swyddog gweithredu y bwrdd iechyd, y dylai cleifion ddisgwyl oedi i driniaethau a gwasanaethau'r ysbyty gyfan wrth i Ward 12 orfod cau.
"O ganlyniad, mae ambell i driniaeth oedd wedi'i threfnu yn cael eu gohirio am y tro, ond rydym wrthi'n sicrhau bod cleifion yn gwybod be sy'n digwydd ac yn ceisio gwneud ein gorau i beidio ag achosi oedi i'r gwasanaethau," meddai.
"Gofynnwn i bobl fod yn ymwybodol bod amseroedd aros yn ein hadrannau brys yn debygol o fod yn hir, ac rydym am atgoffa pobl â mân afiechydon neu anafiadau i ystyried ffyrdd eraill o dderbyn gofal."
Ychwanegodd: "Bydd y difrod i Ward 12 yn cael ei asesu eto, ond mae'n debygol na fydd modd defnyddio'r ward am gryn dipyn o amser."