Cymry'n codi dros £500,000 ar gyfer apêl seiclon Idai

  • Cyhoeddwyd
MozambiqueFfynhonnell y llun, AFP

Mae dros £500,000 wedi cael ei godi gan bobl Cymru er mwyn helpu'r miliynau sydd wedi eu heffeithio gan Seiclon Idai yn Zimbabwe, Malawi a Mozambique.

Mae'r seiclon, sydd wedi ei ddisgrifio fel y drychineb tywydd waethaf i daro hemisffer y de, wedi lladd 700 o bobl ac wedi effeithio tua 3 miliwn.

Mae ffyrdd, pontydd a thai, ysgolion a gwasanaethau iechyd wedi cael eu chwalu gan y gwyntoedd cryfion a'r llifogydd.

Hyd yma mae'r Disasters Emergency Committee (DEC) ledled y DU wedi codi £18 miliwn ar gyfer yr apêl - gyda £562,100 o'r swm yma yn dod o Gymru.

Dywedodd Cadeirydd DEC Cymru, Rachel Cable: "Rydym yn hynod o ddiolchgar i'r cyhoedd yma yng Nghymru... mae eu harian nawr yn darparu bwyd, dŵr glân a lloches i bobl yn Zimbabwe, Malawi a Mozambique sydd wedi colli popeth."

'Llygedyn o obaith'

Roedd Robert Muza, 49 oed o Gasnewydd, yn Zimbabwe pan darodd y seiclon. Mae nawr wedi penderfynu aros allan yno i gefnogi'r gwaith dyngarol. 

"Mae cymaint o dristwch a thor calon yma," meddai. "Mae pobl wir eisiau atebion. Maen nhw eisiau gwybod os ydy eu teulu a'u ffrindiau yn fyw neu'n farw, wedi eu cario gan y dŵr."

Ychwanegodd: "Mae pob ceiniog yn gwneud gwahaniaeth - rydw i wedi hynny gweld gyda fy llygaid fy hyn. Pan mae'r cymorth yn cyrraedd mae llygedyn o obaith."