Cyhoeddi'r rhaglen lawn ar gyfer Gŵyl y Gelli 2019
- Cyhoeddwyd
Mae Joanna Lumley, Maxine Peake a Stephen Fry ymysg yr enwogion fydd yn ymddangos yng Ngŵyl y Gelli eleni.
Mae'r ŵyl, sy'n cael ei chynnal yn Y Gelli Gandryll, Powys ym mis Mai bellach wedi cyhoeddi rhaglen lawn o ddigwyddiadau.
Bydd cymysgedd o actorion, nofelwyr, gwleidyddion a haneswyr yn ymddangos yn yr ŵyl lenyddol 10 diwrnod o hyd.
Dywedodd cyfarwyddwr yr ŵyl, Peter Florence fod y digwyddiad yn rhoi "cyfle i bobl feddwl, ac i feddwl eto".
Cafodd yr ŵyl ei chynnal am y tro cyntaf yn 1987 ac mae bellach yn un o wyliau llenyddol fwyaf blaenllaw'r byd.
Bydd sawl digwyddiad hanesyddol yn cael ei ddathlu yn yr ŵyl eleni gan gynnwys 500 mlynedd ers marwolaeth Leonardo Da Vinci, 30 mlynedd ers protest Tiananmen Square a 50 mlynedd ers sefydlu elusen Stonewall.
Bydd Gŵyl y Gelli yn cael ei gynnal rhwng 23 Mai a 2 Mehefin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2018