Adar yn ysbrydoli cynlluniau newydd Pier Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Llun artistFfynhonnell y llun, Llun artist
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwaith diweddaraf yn gweld sgriniau a drysau gwydr yn cymryd lle waliau mewnol

Bydd gan wylwyr adar le pwrpasol i edrych ar ddrudwy ar Bier Brenhinol Aberystwyth fel rhan o gynlluniau i'w adnewyddu.

Mae penseiri wedi gwneud cynlluniau i'r pier - yr hynaf o'i fath yng Nghymru - fydd yn cynnwys platfform arbennig sy'n rhoi'r cyfle i ymwelwyr wylio drudwy'n ffurfio cymylau mawr du yn yr awyr.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r pier wedi denu ymwelwyr ar draws y byd oherwydd tuedd dros 50,000 o ddrudwy i gasglu a nythu yno.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi rhoi'r golau gwyrdd i gynlluniau Hughes Architects, fydd hefyd yn cynnwys creu ardal chwarae dan do.

Ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Drudwy ar eu ffordd yn ôl i noswylio ar y pier yn Aberystwyth

Cafodd Pier Brenhinol Aberystwyth ei agor yn 1865.

Bu'n rhaid iddo gael ei ailadeiladu flwyddyn ar ôl ei agor yn dilyn stormydd.

Yn ddiweddar roedd pryder y byddai'n rhaid cau'r pier am fod stormydd wedi effeithio busnesau yno.

Mae'r adeilad rhestredig Gradd II yn gartref i nifer o fusnesau bach, gan gynnwys clwb nos, arcêd, tafarn a bwyty.