Dod i 'nabod sêr newydd tîm Cymru

  • Cyhoeddwyd

Erbyn diwedd y bencampwriaeth, roedd arwyr Euro 2016 yn wynebau cyfarwydd iawn i bobl ar hyd a lled Cymru, boed nhw'n dilyn pêl-droed neu beidio.

Felly roedd ambell un a oedd yn gwylio gêm gyntaf ymgyrch Euro 2020 yn siŵr o fod mewn penbleth ac yn pendroni pwy'n union oedd yn gwisgo'r crysau coch.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dan James yn sgorio yn erbyn Slofacia - y tro cyntaf iddo ddechrau gêm i Gymru

Dim ond tri o'r chwaraewyr wnaeth ddechrau'r gêm yn erbyn Slofacia oedd yn Ffrainc yn 2016, wrth i'r rheolwr Ryan Giggs ymddiried mewn saith chwaraewr oedd gyda llai na 10 o gapiau yr un - a nifer yn eu hugeiniau cynnar ac arddegau.

Felly i unrhyw un oedd yn ansicr o ambell enw, dyma gefndir y to newydd - fydd gobeithio yn adnabyddus iawn erbyn diwedd Euro 2020.

Dan James, 21

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Y gêm yn erbyn Slofacia oedd ei ymddangosiad llawn cyntaf i'w wlad. Ac mae'n sgorio chwip o gôl ynddi.

Mae'n chwarae i Abertawe, ond fu ond y dim iddo symud i Leeds fis Ionawr.

Ar ôl perfformiad ddoe - a gôl wych i Abertawe yng nghwpan yr FA fis diwethaf - mae'n ddigon posib bod ei bris ar fin codi...

Connor Roberts, 23

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe gafodd y cefnwr dde ei ddewis yn lle'r chwaraewr sydd wedi ennill mwyaf o gapiau i Gymru erioed.

Tra bod Chris Gunter wedi chwarae 93 o weithiau i Gymru, dim ond nawfed gêm Connor Roberts oedd hon.

Mae'r gŵr o Gastell-nedd yn chwarae i Abertawe.

Harry Wilson, 22

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Er mai dim ond ei nawfed cap i Gymru oedd gêm Slofacia, mae'n enw cyfarwydd ers pum mlynedd.

Daeth yr hogyn o Gorwen i amlygrwydd fel y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae dros Gymru pan ddaeth ar y cae yn erbyn Gwlad Belg ym mis Hydref 2013, ac yntau ond yn 16 oed.

Mae ar lyfrau Lerpwl, diolch i gamgymeriad gan Manchester United.

Roedd clwb Old Trafford yn cadw golwg arno pan oedd yn fachgen ifanc, ac wedi gyrru llythyr i'w deulu er mwyn trafod y dyfodol. Ond fe wnaethant yrru'r llythyr i deulu 'Harry' arall oedd yn yr un dosbarth ag o yn yr ysgol.

Fe wnaeth Lerpwl gamu i mewn, ac mae o dal yno - ond ar fenthyg i Derby ar hyn o bryd.

Chris Mepham, 21

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Doedd Chris Mepham ddim yn chwarae ar y lefel uchaf tan ddechrau'r flwyddyn pan arwyddodd i Bournemouth yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Cyn hynny roedd yn rhan o amddiffyn Brentford, sydd ym Mhencampwriaeth Lloegr.

Enillodd ei gap cyntaf i Gymru fis Mawrth diwethaf, a dim ond ei bumed gêm i'w wlad oedd y fuddugoliaeth yn erbyn Slofacia.

James Lawrence, 26

Ffynhonnell y llun, Stu Forster

Dyma'r tro cyntaf i'r amddiffynnwr ddechrau mewn gêm gystadleuol i'w wlad - ac roedd yn gwneud hynny ar ôl cael ei ddewis yn lle'r capten ac arwr Euro 2016 Ashley Williams. Am bwysau.

Dim ond fis Tachwedd diwethaf chwaraeodd ei gem gyntaf i Gymru ac mae'n chwarae i dîm Anderlecht yng Ngwlad Belg.

Roedd yn siŵr o adnabod rhai o chwaraewyr Slofacia gan ei fod yn arfer chwarae pêl-droed yno.

Matt Smith, 19

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n chwarae ei bêl-droed yn yr ail gynghrair yn yr Iseldiroedd gyda FC Twente, lle mae ar fenthyg o Manchester City.

Ond yn erbyn Slofacia, wrth ennill ei bumed cap, roedd yn rhedeg canol y cae gyda'r 'hen sdejar' - Joe Allen.

David Brooks, 21

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Un sydd eisoes yn serennu i Bournemouth yn Uwch Gynghrair Lloegr, ar ôl ymuno â nhw dros yr haf.

Cyn hynny bu'n chwarae i Sheffield United yn y Bencampwriaeth.

Mae ei fam o Langollen, ond cafodd ei eni yn Warrington - felly mae wedi cynrychioli timau ieuenctid Cymru a Lloegr.

Cymru ddewisodd o yn y diwedd gan chwarae ei gêm gyntaf i'r prif dîm yn 2017, ac mae'n un o chwaraewyr disgleiriaf y garfan yn barod.

Hefyd o ddiddordeb: