Iaith y Brain - eich ymateb chi
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth yr erthygl Beth yw iaith y brain? ar wefan Cylchgrawn ar 12 Mawrth ddenu llawer iawn o ddiddordeb ac ymateb ar y gwefannau cymdeithasol.
Cafodd y fideo, lle mae Chris Davies o Lanfrothen yn esbonio beth yw'r iaith hynod yma sy'n deillio o Ben Llŷn, ei wylio dros 28,000 o weithau ar dudalen Facebook BBC Cymru Fyw.
Mae nifer wedi bod yn trafod eu hatgofion nhw o siarad yr iaith, neu sôn am glywed aelodau o'u teulu yn siarad iaith y brain.
Fe anfonodd Gareth Rowlands ebost aton ni yn olrhain hanes ei deulu, a'r iaith ddiddorol yma:
"Un o ardal Pentraeth, Sir Fôn oedd fy nhad a mam yn ferch o Uwch Aled, Sir Ddinbych. Roeddwn i yn un o dri o feibion ac fe gawsom ein magu ar aelwyd uniaith Gymraeg ym mhentre bychan Glasfryn ger Cerrig y Drudion yn y 40au. Os byddai Mam a Dad am gyfarthrebu gyda'i gilydd heb i ni ddeall eu sgwrs fe fyddent yn troi i'r Saesneg. Doeddem ni frodyr ddim callach, wrth gwrs, gan nad oeddem yn deall gair o'r iaith fain!
"Yn 1952 daeth newid ar fyd pan symudodd y teulu i Aberystwyth ac mewn cymdeithas fwy, buan iawn y daethom yn fwy cyfarwydd â Saesneg ac o dipyn i beth, dod yn hyddysg yn yr iaith.
"Roedd hyn yn dipyn o ergyd i Mam a Dad - nid am eu bod yn meddwl ein bod yn mynd i gefnu ar y Gymraeg a cholli'r iaith ond oherwydd na allent bellach ddefnyddio Saesneg ar gyfer eu sgryrsiau cyfrinachol tra'r oeddem ni'n bresennol!
"Yr ateb oedd datblygu eu hiaith eu hunain, rhyw iaith unigryw oedd yn hollol anealladwy i ni ac unrhywun arall. O leia' dyna oeddwn i'n dybio nes i fi ddarllen am iaith y brain ar Cymru Fyw!
"O ble ddaeth yr iaith i Mam a Dad does gen i ddim syniad. Does gan y teulu ddim cysylltiad â Pen Llŷn.
"Fy nain, mam fy mam, efallai oedd yn gyfrifol. Fe'i ganwyd a'i magwyd hi yn Rachub, Bethesda ac er iddi fynd i weini i Stockport yn ferch ifanc fe ddychwelodd ar ôl colli ei gŵr cyntaf ac yna maes o law ymgartrefu yn Glasfryn a phriodi Evan Hughes.
"Roedd ail ŵr ei mam hi, Elen Williams, fy hen nain, yn rheolwr chwarel ym Methesda sydd yn gwneud i mi feddwl taw o'r cwt chwarel y daeth iaith y brain i tŷ ni!"
Nid teulu Gareth Williams oedd yr unig rai a fyddai'n defnyddio'r iaith arbennig yma.
Dyma rai o'r sylwadau o dudalen Facebook BBC Cymru Fyw:
Cafodd yr erthygl ymateb ar wefan Twitter hefyd. Wedi i Aled Hughes, cyflwynydd BBC Radio Cymru drydar am yr iaith, dywedodd Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru:
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ac nid hi yw'r unig un:
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Felly byddwch yn ofalus wrth siarad tu ôl i gefn rhywun - efallai fod mwy o bobl yn deall iaith y brain nad ydych chi'n ei sylweddoli!
Iolchdi i ichi ydgy!
Efallai o ddiddordeb: