Ystyried ateb cymunedol i brinder bysiau yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Bws Dinas Dinlle
Disgrifiad o’r llun,

Mae Arriva wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n rhedeg y gwasanaeth ar ôl diwedd y mis

Mae cymuned yng Ngwynedd yn ystyried cymryd cyfrifoldeb am eu gwasanaeth bws lleol, ar ôl i gwmni Arriva gyhoeddi eu bod yn rhoi'r gorau i'w teithiau nhw ddiwedd y mis yma.

Ar hyn o bryd mae 'na fws rhif 91 yn mynd saith gwaith y dydd rhwng Dinas Dinlle a Chaernarfon, chwe diwrnod yr wythnos.

Ond ni fydd Arriva yn parhau â'r teithiau hynny ar ôl dydd Sadwrn nesa', ac mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi'r gwasanaeth allan i dendr.

Mae'r ceisiadau hynny i fod i gael eu cyflwyno erbyn 26 Mawrth.

Ond roedd tri o gynghorau cymuned yr ardal - Llanwnda, Llandwrog a Bontnewydd - yn pryderu am ddyfodol y gwasanaeth petai yna ddim cwmnïau'n ceisio am y cytundeb, felly maen nhw wedi penderfynu sefydlu eu cwmni bws eu hunain i lenwi'r bwlch os fydd angen.

Aeron Jones
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith y Cynghorydd Aeron Jones yw osgoi cael bwlch yn y gwasanaeth

Yn ôl y cynghorydd sir, Aeron Jones, sy'n cynrychioli ward Llanwnda, dydy cynnal y cytundeb yn gymunedol ddim yn ddelfrydol gan nad oes ganddyn nhw drwyddedau llawn, sy'n golygu mai ond bysiau llai byddan nhw'n gallu eu defnyddio.

Ond mae o'r farn bod ateb cymunedol yn well na dim ateb o gwbl.

"Mae 'na bobl yn ddibynnol ar y gwasanaeth bob dydd i ddod i'w gwaith, i weld y meddyg neu fynd i siopa," meddai'r Cynghorydd Jones.

"Heb ddim byd, o'n i'n poeni byddai yna wagle, a phobl yn methu dod i Gaernarfon i gael y gwasanaethau.

"Mi fasa'n wych tasa 'na gwmni arall yn camu mewn - cwmni sydd wedi arfer rhedeg bysus.

"Dwi 'mond wedi sefydlu rhywbeth rŵan rhag ofn y gwagle yna."

Wendy Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Wendy Williams bod pawb sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn poeni amdano

Un sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn rheolaidd o'i chartref yn Llanfaglan ydy Wendy Williams, ac mae hi'n bryderus iawn.

"Dwi ddim yn gwybod be' wna' i hebddo," meddai.

"Fedra' i ddim cerdded lawr i Gaernarfon ac mae tacsis yn ddrud i gael yn ôl ac ymlaen.

"Dydy'n iechyd i ddim yn dda chwaith a dwi'n dibynnu ar ysbytai a doctoriaid - ma' pawb yn poeni'n ofnadwy.

"Mi fydd o'n effeithio ar Dinas Dinlle hefyd, yr holidaymakers yn yr haf, mae'n mynd i dd'eud arnyn nhw hefyd."

'Eisoes wedi mynd i dendr'

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Gwynedd: "Anfonodd Arriva rybudd i'r Comisiynydd Traffig yn ddiweddar yn mynegi eu bwriad i derfynu amrywiol wasanaethau bws ar ddiwedd mis Mawrth eleni.

"O ganlyniad, edrychodd y cyngor ar wahanol opsiynau i ddarparu gwasanaethau amgen yn eu lle ac mae'r gwaith yma yn parhau.

"O ran y llwybr rhwng Dinas Dinlle a Caernarfon, mae'r cyngor eisoes wedi mynd allan i dendr am y gwasanaeth yma ac wedi cyflwyno pedwar opsiwn er mwyn galluogi i unrhyw ddarparwr bws cymwys geisio amdanynt."