Uwch Gynghrair Lloegr: Caerdydd 1-2 Chelsea
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth cyfres o benderfyniadau dadleuol gan y tîm dyfarnu droi'r gêm ar ei phen wrth i Gaerdydd golli yn erbyn Chelsea ddydd Sul.
Ychydig o gyfleoedd fu yn yr hanner cyntaf a gyda'r un tîm yn llwyddo i greu argraff, roedd yr Adar Gleision yn edrych yn ddigon cyfforddus.
Aeth Caerdydd ar y blaen o fewn munud o ddechrau'r ail hanner, gyda Victor Camarasa yn sgorio gyda foli wych o groesiad Harry Arter.
Roedd hi'n dechrau edrych fel y byddai'r tîm cartref yn gallu cadw eu gafael yn y fuddugoliaeth, cyn i César Azpilicueta benio i'r rhwyd gyda phum munud yn weddill.
Doedd rheolwr Caerdydd, Neil Warnock ddim yn hapus am iddi ymddangos bod amddiffynnwr Chelsea yn camsefyll ar gyfer ei gôl.
Roedd Warnock hyd yn oed yn fwy cynddeiriog wedi i'r dyfarnwr Craig Pawson ddangos cerdyn melyn, nid coch, i Antonio Rüdiger wedi iddo dynnu Kenneth Zohore i'r llawr ag yntau'n un yn erbyn un gyda'r golwr.
Llwyddodd yr ymwelwyr i ganfod y gôl fuddugol ym munud olaf y 90 wrth i Ruben Loftus-Cheek benio heibio i'r golwr Neil Etheridge.
Mae canlyniadau eraill y penwythnos yn golygu bod Caerdydd bellach bum pwynt i ffwrdd o'r 17eg safle yn yr Uwch Gynghrair.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019