Derbyn Bae Colwyn i bêl-droed Cymru yn yr ail haen

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm CPD Bae ColwynFfynhonnell y llun, CPD Bae Colwyn
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae Bae Colwyn yn chwarae yn y Northern Premier League Division One West

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi derbyn cais CPD Bae Colwyn i gymryd rhan yng nghynghreiriau Cymru.

Pan gafodd y cais ei wneud ddiwedd mis Chwefror, dywedodd y clwb mai chwarae yn y pyramid Cymreig oedd yr unig obaith i achub dyfodol y clwb.

O ddechrau'r tymor nesaf - 2019-20 - bydd Bae Colwyn yn chwarae yn ail haen pêl-droed Cymru sydd newydd ei sefydlu gan GBDC.

Y bwriad pan sefydlwyd yr ail haen oedd y byddai 16 o dimau yn y ddwy gynghrair - de a gogledd.

Ond mae'r Gymdeithas wedi cadarnhau ddydd Gwener y bydd 17 o glybiau bellach yn adran y gogledd, sy'n golygu na fydd unrhyw dîm arall yn cael eu heffeithio gan ddyfodiad Bae Colwyn.

Bydd Bae Colwyn hefyd yn cystadlu yn rownd gyntaf Cwpan Cymru ar 19 Hydref, 2019.