'Angen gwella gwasanaeth iechyd meddwl plant'

  • Cyhoeddwyd
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn nodi bod angen gwella agweddau o wasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS).Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi nodi bod angen gwella agweddau o wasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed.

Diffyg gwelyau ar gyfer pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl "risg uchel" oedd un o brif bryderon adroddiad AGIC.

Tair uned arbenigol i gleifion sydd yng Nghymru, gyda lle i 51 o bobl.

Ond ers mis Rhagfyr, mae rhai cleifion o Gymru wedi cael eu symud o le gofal yng Nglyn Ebwy oherwydd pryderon am eu diogelwch, gan adael dim ond 27 o welyau.

Mae'r adolygiad wedi canolbwyntio ar y canlynol:

  • Gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS);

  • Gwasanaethau gofal iechyd cyffredinol i bobl ifanc;

  • Cefnogi pobl ifanc sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd a gofal lliniarol;

  • Trosglwyddo o wasanaethau gofal iechyd plant i wasanaethau gofal iechyd oedolion.

Dywedai'r adolygiad fod pobl ifanc at ei gilydd yn cael profiadau da o ofal yn y gwasanaethau ond mae yna bryderon am allu unedau cleifion mewnol CAMHS yng Nghymru i letya pobl risg uchel.

Golyga hyn, medd yr adroddiad, nad yw pobl ifanc bob amser yn gallu cael gofal amserol yn agos at eu cartrefi a bod yn rhaid i rai ohonyn nhw gael eu lleoli y tu allan i'w hardaloedd.

Mae galw ar i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r broblem hon. Maen nhw wedi cael cais am ymateb.

Mae yna bryder hefyd am yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth symud rhwng gwasanaethau plant ac oedolion.

Yn ôl yr adroddiad, mae angen i'r byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru wneud mwy o waith i sicrhau trefniadau trosglwyddo didrafferth ac effeithiol i bobl ifanc ledled Cymru i'w helpu wrth iddyn nhw ddod yn oedolion.

Dywed AGIC eu bod yn gobeithio y bydd yr adroddiad yn hybu gwelliant, ac y bydd y canfyddiadau a'r argymhellion yn cael eu hystyried yn ofalus gan Lywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd.

Mae'r adroddiad ar gael i'w ddarllen yn llawn yma., dolen allanol