Diffyg ariannol byrddau iechyd Cymru'n gostwng

  • Cyhoeddwyd
Betsi Cadwaladr hospitals in north Wales

Fe wnaeth diffyg ariannol byrddau iechyd ostwng 42% y llynedd, ond mae pryderon yn parhau am Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Ar ddiwedd y flwyddyn roedd diffyg ariannol y saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn £97.4m.

Roedd diffyg ariannol Betsi Cadwaladr wedi codi i £42m.

Ymhlith y ffactorau sy'n cyfrannu at y diffyg mae gofal cymhleth am oedolion, costau iechyd meddwl a llogi asiantaethau nyrsio i ddelio â phrinder staff yn ysbytai Glan Clwyd a Maelor Wrecsam.

Yn y flwyddyn flaenorol Hywel Dda oedd â'r diffyg ariannol mwyaf - ond bellach mae'r bwrdd iechyd ar fin cwrdd â'r gofyn o ddyled o £35.5m wedi iddynt gael cymorth o £27m gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl llefarydd mae oedi cyn rhyddhau cleifion iach o ysbytai yn parhau i fod yn dreth ar gostau ond mae Huw Thomas, cyfarwyddwr cyllid Hywel Dda, yn dweud bod yna "reoli tynn" wedi bod ar gostau.

Dywedodd: "Mae hyn yn gam arwyddocaol i'r bwrdd iechyd ac yn ganlyniad gwaith diflino ac ymroddiad gan staff."

Disgrifiad o’r llun,

Mae prinder staff wedi bod yn ysbyty Maelor Wrecsam

Mae problemau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gorfodi'r bwrdd iechyd i fod o dan fesurau arbennig ers 2015, ac y mae Llywodraeth Cymru yn cadw golwg ar sut mae'r bwrdd iechyd yn rheoli ysbytai a gwasanaethau iechyd eraill yng ngogledd Cymru.

Mae'r adroddiad ariannol diweddaraf yn tynnu sylw at fethiant y bwrdd i gynilo digon - £6.7m yn fyr o'r hyn oedd wedi'i fwriadu.

Mae prinder staff wedi bod yn broblem ers tro ac mae ysbytai Glan Clwyd a Maelor Wrecsam rhyngddynt yn gwario £1m y mis ar gyflogi staff asiantaeth.

Dywedodd llefarydd: "Rhagwelir y bydd ein dyled rhwng £40m a £42m ar ddiwedd y flwyddyn - hynny'n ddibynnol ar y rhestri aros terfynol.

"Roeddem wedi cytuno gyda Llywodraeth Cymru i beidio cael diffyg ariannol o fwy na £35m yn 2018/19."

Y byrddau eraill

Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod yn hyderus y byddant yn gwneud "gwelliant ariannol arwyddocaol" wedi diffyg o £26.9m y llynedd - amcangyfrif o £9.9m.

Yn ogystal mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething bellach wedi peidio cadw golwg ar y sefyllfa ariannol ac wedi derbyn cynllun tair blynedd ar gyfer y dyfodol, gan ddweud "bod y bwrdd iechyd wedi gweithio'n adeiladol ac yn aeddfed gyda fy swyddogion i ddelio â nifer o faterion ariannol".

Dywed Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg ei bod yn debygol o gwrdd â'r gofyn o orwariant o £10m a'u bod yn cadw llygad gofalus ar yr hyn a allai eu rhwystro i gyrraedd y nod.

O'r penwythnos hwn mae ffiniau Cwm Taf yn newid wrth iddynt fod yn gyfrifol am ysbytai a gwasanaethau iechyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dyw Cwm Taf ddim wedi gwneud colled ers 2009 a dywedodd llefarydd: "Mae bod mewn sefyllfa ariannol gytbwys yn ein helpu i ddelio â heriau sy'n wynebu pob bwrdd iechyd wrth i'r boblogaeth heneiddio a thyfu."

Yn y cyfamser mae byrddau iechyd Aneurin Bevan a Phowys wedi peidio mynd i ddyled am yr ail flwyddyn yn olynol.

Dadansoddiad gohebydd iechyd BBC Cymru, Owain Clarke

Ar y cyfan dyma newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn ei groesawu.

Mae pedwar o'r byrddau iechyd mawr, i raddau, wedi llwyddo i gyfyngu ar ei gwariant.

Yn achos Hywel Dda, arian ychwanegol sydd wedi eu helpu nhw i gael diffyg ariannol llai - wedi i adolygiad ddod i gasgliad fod gan y bwrdd iechyd anghenion arbennig oherwydd natur y boblogaeth a safle daearyddol y bwrdd.

A chofiwch, mae cyllidebau Llywodraeth Cymru wedi bod yn hael i'r gwasanaeth iechyd ar y cyfan.

Mae'n ddarlun positif ar adeg pan mae'r galw am ofal yn cynyddu.

Bydd mwy o gyfarwyddwyr ariannol byrddau iechyd yn gwenu'r penwythnos hwn na'r un adeg y llynedd.

Y gofid mwyaf, fel ag erioed, yw Betsi Cadwaladr. Nhw bellach sydd â'r ddyled fwyaf o bawb ac mae'r gorwariant yn uwch na llynedd.

Wrth i broblemau Betsi Cadwaladr barhau dyw hi ddim yn edrych yn debyg y bydd y bwrdd iechyd yn dianc rhag bod o dan fesurau arbennig yn fuan.