Apêl heddlu ar ôl dwyn peiriant arian o siop yn Nhorfaen

  • Cyhoeddwyd
Co-op GarndiffaithFfynhonnell y llun, Zowie Vaughan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r siop tua 02:40 fore Llun

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i gerbyd yrru i flaen siop a dwyn peiriant arian yn oriau mân y bore.

Cafodd Heddlu Gwent alwad am y digwyddiad yn siop Co-op yn Stanley Road, Garndiffaith yn Nhorfaen am oddeutu 02:40 fore Llun.

Y gred yw bod tri unigolyn ynghlwm â'r digwyddiad, ac iddynt ddefnyddio cerbyd 4x4 a jac codi baw.

Dywedodd llefarydd ar ran Co-op: "Fe fu digwyddiad yn oriau mân y bore lle ymosodwyd ar beiriant arian y siop.

"Mae hi'n rhy gynnar i gadarnhau pryd fydd y siop yn ailagor, gan ein bod yn aros am ganlyniad asesiad o strwythur yr adeilad.

"Mae'r heddlu'n ymchwilio i'r digwyddiad, ac rydym yn apelio ar unrhyw un all fod wedi gweld neu glywed unrhyw beth i ddod ymlaen."

Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un ag unrhyw wybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101 neu drwy gyfryngau cymdeithasol y llu.