Flybe i leihau teithiau o Gaerdydd gan beryglu swyddi

  • Cyhoeddwyd
FlybeFfynhonnell y llun, Flybe
Disgrifiad o’r llun,

Mae Flybe yn hedfan i 21 o lefydd gwahanol o Faes Awyr Caerdydd ar hyn o bryd

Mae cwmni awyrennau Flybe wedi dweud y byddan nhw'n cwtogi ar nifer yr hediadau o Faes Awyr Caerdydd, gan beryglu swyddi yno.

Bydd teithiau ar awyrennau jet yn dod i ben ar ddechrau tymor y gaeaf 2019/20, ond bydd teithiau ar awyrennau llai - Bombardier Q400 - yn parhau.

Dywedodd Pennaeth Maes Awyr Caerdydd, Deb Barber fod Flybe yn ymgynghori gyda gweithwyr yno.

"Mae cynllun Flybe i ailstrwythuro a lleihau ei weithrediadau jet ar draws nifer o ganolfannau yn rhan o amcan hirdymor y cwmni i sefydlogi'r busnes," meddai.

Mae disgwyl i'r toriadau effeithio Caerdydd, Doncaster a Chaerwysg.

Cafodd dwsinau o hediadau gan y cwmni eu canslo fore Mercher - gan effeithio ar Gaerdydd.

Mae Flybe wedi ymddiheuro i'r cwsmeriaid gafodd eu heffeithio, gan ddweud nad oedd yn gysylltiedig â'r cyhoeddiad diweddaraf.

Flybe 'ddim am adael Caerdydd'

Dywedodd prif weithredwr Flybe, Christine Ourmières-Widener na fyddan nhw'n symud allan o Gaerdydd yn llwyr.

"Rydym ni'n lleihau ein fflyd ac fe fydd gennym ni lai o jets [ac mae hynny'n] cael effaith ar ein gweithredoedd yng Nghaerdydd," meddai.

Ychwanegodd y bydd y ffordd mae'r cwmni'n gweithredu yng Nghaerdydd yn newid, gan gynnig teithiau i lai o leoliadau oddi yno.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Christine Ourmières-Widener fod y Flybe yn parhau mewn trafodaethau gyda Maes Awyr Caerdydd

Ond doedd hi ddim am ddweud sut yr oedd y newyddion diweddaraf am effeithio'r niferoedd ar hyn o bryd.

Ym mis Tachwedd y llynedd, dywedodd Flybe y byddan nhw'n gwneud colled o £22m am y flwyddyn - gan feio cwymp mewn galw, punt wannach a chostau tanwydd uwch.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru brynu Maes Awyr Caerdydd am £52m yn 2013.