Y frwydr yn erbyn plastig ar ein traethau
- Cyhoeddwyd
Ar ôl ymgyrch gan y gymuned i stopio'r defnydd o blastig un defnydd mewn busnesau lleol, mae Ynys Môn wedi ennill statws "cymuned ddi-blastig" gan elusen amgylcheddol.
Dros flwyddyn yn ôl ymunodd Cymru Fyw â gwirfoddolwyr oedd yn clirio plastig oddi ar draethau Môn gan weld faint yn union o broblem yw'r sbwriel plastig sy'n golchi ar ein glannau ac yn bygwth bywyd gwyllt y môr.
Ai ein cyfrifoldeb ni yw mynd ati i daclo'r llygredd plastig ar ein glannau ein hunain?

Y poteli, y gwellt yfed, yr hen fwcedi a'r 'cotton buds' - pwy sy'n mynd i'w clirio nhw o'r glannau? A pham eu bod nhw yno yn y lle cyntaf?