Wyddoch chi fod yna ail Salem?
- Cyhoeddwyd
Salem. Mae'r llun yn un o eiconau ein gwlad ac mae pob Cymro gwerth ei halen wedi syllu, chwilio a chanfod y diafol yn siôl Siân, siŵr o fod.
Ond a wyddoch chi bod Salem gwreiddiol arall gan yr un arlunydd yn bodoli?
Ac, ar ôl i Cymru Fyw dderbyn caniatâd gan y perchnogion i gyhoeddi'r llun, dyma gyfle arbennig i gymharu'r ddau fersiwn am y tro cyntaf mewn bron i 20 mlynedd.
Y Salem adnabyddus
Cafodd y Salem ry'n ni i gyd yn ei adnabod ei baentio yn 1908 gan yr arlunydd o Loegr, Sydney Curnow Vosper. Roedd yn briod â dynes o'r enw Constance James o Ferthyr Tudful a thrwyddi hi cafodd wybod am Gymru.
Mae'r llun yn portreadu Siân Owen, Tyn-y-Fawnog, yn mynychu Capel Salem ym Mhentre Gwynfryn tua milltir i'r dwyrain o Lanbedr, Ardudwy.
Cred rhai eu bod yn medru gweld llun y diafol ym mhlygiadau siôl Siân Owen a bod yr arlunydd wedi ei gynnwys yn fwriadol i fychanu crefydd y Cymry - ond gwadu hynny wnaeth Vosper o hyd.
Prynodd William Hesketh Lever, perchennog cwmni Sunlight Soap, y llun yn 1909 am 100 gini (£105) ac fe'i ddefnyddiodd i hysbysebu sebon y cwmni. Roedd cwsmeriaid oedd yn gwario dros £7 ar sebon, drwy gasglu tocynnau arbennig, yn derbyn copi o'r darlun.
Oherwydd hynny, daeth y llun yn adnabyddus iawn ar draws Prydain. Dyma'r darlun cyntaf i gael ei fasgynhyrchu ac ymddangosodd ar waliau tai cannoedd ar gannoedd o bobl.
Roedd yn enwedig o boblogaidd yng Nghymru, wrth gwrs, gan mai delwedd o gapel Cymraeg sydd ynddo - sef golygyfa gyfarwydd iawn i'r rhan fwyaf o Gymry'r oes honno.
Mae'r Salem gwreiddiol yn cael ei arddangos yn y Lady Lever Art Gallery yn Port Sunlight, Cilgwri.
Yr ail Salem
Ond mae Salem arall yn bodoli - un mymryn yn wahanol i'r Salem adnabyddus, yn dwyn yr un teitl ac wedi ei baentio gan yr un arlunydd.
Roedd Frank James, o Ferthyr Tudful - brawd yng nghyfraith i Vosper - wedi dotio cymaint at lun Salem nes iddo erfyn ar yr arlunydd i baentio copi manwl iddo. Fe wnaeth hynny, ac mae'r llun yn eiddo'r teulu byth ers hynny - ond prin yw'r adegau mae'n gweld golau dydd.
Cafodd y llun ei arddangos yng Nghastell Cyfarthfa am ychydig yn 2002 cyn ei gludo i storfa Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd.
Mae'r ail Salem tua hanner maint yr un gwreiddiol ac yn mesur ryw 35cm wrth 38cm. Gellir gweld yn y llun nad yw'r 'copi' yn gopi perffaith gan fod y cloc ar y wal ddim yno, mae un o'r cymeriadau ar y dde ar goll o'r gynulleidfa ac mae'r rheilen â phegiau hongian cotiau wedi diflannu. Tydi'r diafol chwaith ddim i weld mor amlwg yn yr ail Salem.
A wnaeth Vosper hynny'n fwriadol ai peidio, efallai i osgoi pechu perchennog y Salem gwreiddiol, does neb yn gwybod.
Yn 1988, aeth y cyflwynydd Gwyn Llywelyn ar drywydd yr ail Salem ar gyfer rhaglen Hel Straeon ar S4C.
"Dwi'n cofio gweld y Salem gwreiddiol, yr un adnabyddus, am y tro cyntaf yn Port Sunlight ac wedi rhyfeddu rhywsut ei fod wedi ei osod mewn ryw le digon di-nod yn yr oriel. Roedd o i lawr ryw goridor a ddim mewn lle y buasech chi'n dychmygu i'r fath lun mor eiconig fod," meddai.
Yn rhan o'r rhaglen, gofynnwyd i Peter Lord, yr arbenigwr ar gelf Cymru ac ar waith Vosper, archwilio'r ail lun a chadarnhaodd mai Vosper yw'r arlunydd.
Felly, rydym yn gwybod i sicrwydd bod dau Salem gwreiddiol yn bodoli.
Trysor yn yr atig?
Mae yna lun arall eto fyth, sy'n dod â'r cyfanswm i dri, ond mae'n bosib mai ffotograff cynnar wedi ei liwio gan yr arlunydd ydy hwn. Mae yr un fath yn union â'r darlun cyfarwydd ac wedi ei arwyddo mewn gwyn mae enw Curnow Vosper.
Cafodd ei gyflwyno i'r Parchedig H. Davies Jones gan Vosper ei hun am iddo gael llety yn ei gartref, sef Brynhyfryd, pan oedd yn paentio Salem.
Tybed a wyddoch chi am Salem arall ar wal yn rhywle neu'n gorwedd mewn atig?
Hefyd o ddiddordeb: