Y Bencampwriaeth: Abertawe 3-1 Middlesbrough

  • Cyhoeddwyd
Wayne Routledge yn dathlu sgorioFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Wayne Routledge yn dathlu sgorio ei drydedd gôl o'r tymor

Mae Abertawe wedi codi un safle yn nhabl Uwch Gynghrair Lloegr wedi buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Middlesborough.

Roedd perfformiad yr Elyrch yn arbennig o effeithiol yn yr hanner cyntaf, gan wneud hi'n anodd i dîm y Cymro, Tony Pulis daro'n ôl wedi'r eglwyl.

Wedi 31 o funudau, fe enillodd Daniel James gic o'r smotyn wedi trosedd gan Ryan Shotton o'i gyffyrddiad cyntaf yntau ar ôl dod i'r maes fel eilydd.

Sgoriodd Matt Grimes o'r smotyn i roi'r Elyrch ar y blaen.

O fewn pum munud roedd y tîm cartref wedi dyblu'r fantais wedi gôl gyntaf Wayne Routledge i'r clwb ers mis Rhagfyr.

2-0 oedd yn sgôr felly ar ddiwedd y hanner cyntaf ond roedd Abertawe'n haeddu bod fwy ar y blaen.

Wedi 72 munud roedd hi'n 3-0 wedi ergyd i gornel y rhwyd gan Connor Roberts.

Sgoriodd George Saville gôl gysur gyda llai na 10 munud o'r 90 yn weddill.

Mae'r triphwynt yn golygu bod Abertawe yn 13eg yn y tabl gyda 53 o bwyntiau, ond mae'r pwysau'n cynyddu ar Pulis wedi'r chweched colled Middlesborough o'r bron yn y Bencampwriaeth.