Pro14: Munster 45-21 Gleision Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
CJ StanderFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd yr eilydd CJ Stander un o chwe chais Munster

Colli oedd hanes y Gleision er gwaethaf ymdrech dda oddi cartref yn Munster yn y Pro14.

Fe aeth y Gleision ar y blaen o fewn y 10 munud agoriadol diolch i gais y mewnwr chwim, Tomos Williams.

Daeth Munster yn ôl gyda chic gosb ac yna dau gais - y gyntaf gan Chris Farrell a'r ail gan Jean Kleyn.

Ond fe darodd yr ymwelwyr yn ôl cyn yr egwyl diolch i gais Aled Summerhill, a throsiad arall gan Gareth Anscombe.

Aeth y gwŷr o Gaerdydd ar y blaen am yr ail waith yn fuan yn yr ail hanner - cais gan Rey Lee-Lo y tro hwn.

Ond yn ôl ddaeth Munster unwaith eto, gyda CJ Stander yn croesi'r llinell gais, ac yna Conor Murray yn tirio i ymestyn mantais y tîm cartref.

Fe groesodd Andrew Conway i sgorio pumed cais Munster, cyn i Sam Arnold selio'r fuddugoliaeth gyda chweched cais y cochion.

Munster: Haley, Conway, Farrell, R Scannell, Earls; Bleyendaal, Murray; Kilcoyne, O'Byrne, Ryan, Kleyn, Holland, O'Mahony (capten), Cloete, Botha.

Eilyddion: N Scannell, Loughman, Archer, Beirne, Stander, Mathewson, Hanrahan, Arnold.

Gleision Caerdydd: Anscombe, Lane, Lee-Lo, Halaholo, Summerhill; Evans, T Williams; Gill, Dacey (capten), D Lewis, Davies, Thornton, Lewis-Hughes, Robinson, Turnbull.

Eilyddion: E Lewis, Thyer, Assiratti, Earle, Botham, L Williams, Smith, Morgan.