Gosod camerâu cyflymder ar ffyrdd Triongl Evo
- Cyhoeddwyd
Mae camerâu cyflymder wedi cael eu gosod ar ffyrdd Triongl Evo yn y gogledd i geisio lleihau nifer y damweiniau.
Mae tair lôn rhwng Pentrefoelas, Llyn Brenig a Cherrigydrudion - sy'n cael eu hadnabod yn lleol fel Trongl Evo - wedi datblygu'n le poblogaidd i bobl sy'n hoffi gyrru ceir a beiciau modur cyflym.
Mae'r heddlu'n gobeithio y bydd yn atal yr ardal rhag cael ei ddefnyddio fel trac rasio.
Bu farw pedwar o bobl ar y ffyrdd ers 2012, gyda llawer mwy o ddamweiniau.
Cynghorau Conwy a Sir Ddinbych sydd wedi gosod y camerâu, gyda help grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru.
Ar benwythnosau, yn enwedig yn yr haf, mae gyrwyr o bob cwr o Brydain yn teithio i'r ardal i fynd ar hyd y ffordd.
Mae rhai yn rhannu fideos ar y we, ac yn canmol pa mor addas ydy'r triongl ar gyfer gyrru'n gyflym a phrofi ceir.
Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, sy'n gyfrifol am drafnidiaeth ar Gyngor Sir Ddinbych: "Dim ond rhan o'r ateb yw cyflwyno mesurau diogelwch ar y ffyrdd.
"Rydyn ni angen newid ymddygiad gyrwyr ar ein ffyrdd i ddiogelu nhw eu hunain ac eraill."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2018
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2017