Ofni colli mwy o fywydau yn 'Nhriongl Evo'
- Cyhoeddwyd
Mae angen sefydlu uned arbennig i fonitro'r we er mwyn atal pobl rhag dod i ardal benodol o Gymru i yrru'n beryglus o gyflym, yn ôl Aelod Cynulliad.
Dywedodd Llŷr Huws Gruffydd wrth raglen materion cyfoes BBC Radio Cymru Manylu bod rhaid gwneud rhywbeth ar ôl i ymddygiad rhai gyrwyr ar rwydwaith o ffyrdd sy'n cael eu hadnabod fel 'Triongl Evo' ddatblygu'n gymaint o broblem.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae pedwar o bobl wedi cael eu lladd ar y lonydd yn siroedd Conwy a Dinbych ystod y pum mlynedd ddiwethaf ac 20 wedi eu hanafu, 10 ohonyn nhw yn ddifrifol.
Mae cynghorydd sir yn yr ardal wedi galw am gynllun camerâu newydd ar frys cyn bod mwy o bobl yn marw.
Mae tair lôn rhwng Pentrefoelas, Llyn Brenig a Cherrigydrudion yn siroedd Conwy a Dinbych wedi datblygu'n gylchdaith boblogaidd i bobl sy'n hoffi gyrru ceir a beiciau modur cyflym.
Maen nhw'n adnabod y lle fel yr 'Evo Triangle', sydd wedi cael ei enwi ar ôl y cylchgrawn moduro Evo sy'n defnyddio'r ffyrdd i brofi ceir.
Ar benwythnosau, yn enwedig yn yr haf, mae gyrwyr o bob cwr o Brydain yn teithio i'r ardal i fynd ar hyd y ffordd.
Mae rhai yn rhannu fideos ar y we, ac yn canmol pa mor addas ydy'r triongl ar gyfer gyrru yn gyflym a phrofi ceir.
Ddydd Mercher, cafodd gyrrwr Porsche ei wahardd rhag gyrru am 56 diwrnod a dirwy o £1,500 ar ôl cael ei ddal yn gyrru ar 97mya ar Driongl Evo.
Yn ôl Mr Gruffydd, Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn y gogledd: "Dylai fod yna dîm penodol yn cadw llygad barcud ar y gwefannau cymdeithasol 'ma, er mwyn tracio sylwadau sy'n cael eu gadael a'r fideos sy'n cael eu postio ar y we."
Mae Mr Gruffydd yn credu y dylai'r tîm fod yn rhoi eu sylwadau eu hunain ar y fideos, yn eu rhybuddio am eu hymddygiad, er mwyn ceisio atal pobl rhag mynd yno i rasio yn y lle cyntaf.
Bellach mae'r heddlu, y cynghorau a'r bobl sy'n byw yn yr ardal rhwng Cerrigydrudion, Pentrefoelas a Llyn Brenig yn pryderu am y sefyllfa.
'Mae pobl yn marw'
Dros yr haf, cafodd Shawn Goldstaw o Leek, Sir Stafford, ei garcharu am wyth mlynedd ar ôl cyfaddef achosi marwolaeth Tracy Haley a Darren Lowe o Bagillt drwy yrru'n beryglus.
Dywedodd y barnwr ei fod wedi defnyddio'r ffordd fel "trac rasio".
Un o'r rhai cyntaf i gyrraedd y ddamwain oedd Gwyndaf Evans, sy'n ffermio tir bob ochr i'r ffordd ym Mhentrefoelas.
"Os di'n braf ar benwythnosa', maen nhw allan yn gryf ac weithiau yn ganol yr wythnos hefyd," meddai.
"Grwpiau o Loegr sy'n dŵad fwy na dim faswn i'n dweud, a dwi wedi gweld ceir o'r Iseldiroedd a'r Almaen yma hefyd.
"'Da ni ddim yn medru croesi'r anifeiliaid ar y penwythnos rwan - mae'n rhy beryg, maen nhw'n gyrru gormod. Da ni'n trio gwneud hynny yn yr wythnos."
Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol Conwy a Dinbych yn cydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i wneud cais am arian i brynu camerâu cyflymder cyfartaledd ar gyfer y ffyrdd yma - cynllun sydd wedi gweithio mewn ardaloedd eraill.
'Colli bywydau'
Dywedodd cynghorydd Llangernyw, Garffild Lloyd Lewis: "Mae 'na gost uchel iddo a bydd rhaid gwneud cais ariannol i Lywodraeth Cymru a pherswadio bod wir angen yn fan hyn.
"Da ni'n wir obeithio bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando, achos y gwir ydy bod pobl yn marw.
"Mae o wedi digwydd dros y ddwy flynedd ddiwetha', felly nid chwarae o gwmpas 'da ni'n fan yma efo pobl sy'n mwynhau eu hunain a ddim yn deall pam 'da ni eisiau rhwystro hyn.
"Mae pobl yn colli eu bywydau a dwi'n wir boeni bod pobl eraill am wneud os nad 'da ni'n gwneud rhywbeth am hyn yn weddol sydyn."
Mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi sefydlu Grŵp Diogelwch Ffyrdd i Ddefnyddwyr i ystyried problemau'r ardal yma.
Mae'r grŵp wedi paratoi adroddiad cychwynnol sy'n cynnwys argymhellion all helpu'r sefyllfa, meddai'r datganiad, ac mae'n cael ei ystyried gan y llywodraeth ar hyn o bryd.
Bydd mwy ar y stori hon ar raglen Manylu ar BBC Radio Cymru am 12:30 ar ddydd Iau, Hydref 12.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2016
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2017