Triongl Evo: Tri dyn yn osgoi carchar am yrru'n beryglus
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn wedi osgoi carchar ar ôl cyfaddef gyrru ar gyflymder o hyd at 117 milltir yr awr ar hyd ffyrdd 'Triongl Evo' yng ngogledd Cymru.
Fe wnaeth Alexander Smith, 21 oed o Groesoswallt, Lewis Gething, 22 o Gei Connah, a Jak Kitchener, 21 o Blackburn, gyfaddef gyrru'n beryglus ar hyd yr A543 a'r B5401 yn siroedd Dinbych a Chonwy y llynedd.
Cafodd y dynion eu cyhuddo ar ôl i ddeunydd fideo ohonynt yn gyrru gael ei roi ar Youtube gan Kitchener.
Ond dywedodd y barnwr Gregory Bull nad oedd am weld y dynion yn "colli eu bywoliaeth" oherwydd y drosedd.
'Gwirion ac anaeddfed'
Roedd y llys wedi clywed y byddai Smith a Kitchener yn cael eu diswyddo gan yr Awyrlu petawn nhw'n cael dedfryd o garchar.
Dywedodd y barnwr nad oedd am iddyn nhw golli eu swyddi, er eu lles nhw ac er lles y wlad, ar ôl i gymaint gael ei fuddsoddi ynddynt, ac y byddai hefyd yn gorfod trin Gething yn yr un modd.
Cafodd y tri ddirwy o £2,000 yr un yn ogystal â chostau o £1,476, ac maen nhw wedi eu gwahardd rhag gyrru am ddwy flynedd.
Ychwanegodd y barnwr fod y tri yn mynd ar gyflymder fyddai'n rhy uchel i osgoi unrhyw beth allai fod wedi bod ar y ffordd yn annisgwyl.
"Gallai fod wedi bod yn blentyn, seiclwr, anifeiliaid... petaech chi wedi taro unrhyw beth, byddech chi fwy na thebyg wedi'u lladd nhw a chi'ch hunain," meddai.
Ychwanegodd fod y tri yn "ddynion ifanc gwirion, anaeddfed oedd yn meddwl y bydden nhw'n cael cic allan o yrru'n gyflym", ond nad oedd yn credu y bydden nhw'n ailadrodd eu gweithredoedd.
Clywodd y llys y bydd Smith a Kitchener hefyd yn cael eu disgyblu ar wahân gan yr Awyrlu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2018
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2017