Ethol arweinydd dros dro i Gyngor Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd
Ian Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Ian Roberts wedi cynrychioli ei ardal ers yr 1980au

Mae'r cynghorydd Llafur Ian Roberts wedi cael ei ethol fel arweinydd dros dro Cyngor Sir y Fflint.

Bydd yn cymryd yr awenau fel arweinydd nes y bydd cyfarfod blynyddol y cyngor yn cael ei gynnal ar 7 Mai.

Roedd 60 o gynghorwyr yn bresennol ar gyfer y bleidlais ddydd Mawrth, gyda 56 yn pleidleisio dros y Cynghorydd Roberts a phedwar yn atal eu pleidlais.

Does dim dirprwy arweinydd wedi'i benodi hyd yma.

Bydd y Cynghorydd Roberts yn olynu Aaron Shotton, wnaeth ymddiswyddo'r wythnos ddiwethaf yn dilyn ffrae am ddiswyddiad ei ddirprwy, Bernie Attride.

Mae Mr Roberts, cynghorydd ward Castell y Fflint, wedi cynrychioli ei ardal ers yr 1980au, yn gyntaf fel cynghorydd tref cyn cael ei ethol i'r cyngor sir yn 1992.