Arweinydd Cyngor Sir y Fflint yn ymddiswyddo yn dilyn ffrae

  • Cyhoeddwyd
Aaron Shotton
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddiswyddodd arweinydd Llafur Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton, ei ddirprwy yr wythnos diwethaf

Mae arweinydd Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo, yn dilyn ffrae ynglŷn â diswyddo ei ddirprwy.

Fe wnaeth y Cynghorydd Aaron Shotton ddiswyddo'r dirprwy arweinydd a'r aelod cabinet dros dai, y Cynghorydd Bernie Attridge, yr wythnos diwethaf.

Mewn datganiad, dywedodd y cynghorydd Llafur bod "sylw cynyddol a chyson ar gyfryngau cymdeithasol" yn dilyn y diswyddiad wedi arwain at ei benderfyniad i ymddiswyddo.

"Rwy'n credu'n gryf, er mwyn gwella'r rhwygiadau gwleidyddol sydd wedi dod i'r amlwg yn y dyddiau diwethaf, ei bod hi bellach yn angenrheidiol i fi gamu o'm rôl fel arweinydd cyngor ac aelod cabinet dros gyllid," meddai.

Ychwanegodd: "Mae'r sylw negyddol a pharhaus gan y cyfryngau yn annheg ar y gweithlu ffyddlon ac ymrwymedig sy'n darparu'r gwasanaethau mae pobl ein sir yn dibynnu arnynt."

Dywedodd ei fod yn awyddus i warchod ei "iechyd meddwl a lles" ei hun a'i deulu.

Bydd cyfarfod arbennig o Gyngor Sir y Fflint yn cael ei gynnal ar 9 Ebrill, ac unig bwrpas y cyfarfod fydd ethol arweinydd newydd.