Gwobrwyo gofalwr ifanc am ei gwaith fel hyfforddwr karate

  • Cyhoeddwyd
Bethan Owen
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bethan Owen wedi llwyddo i ennill gwregys du mewn karate erbyn iddi fod yn 12 oed

Mae gofalwr ifanc o Sir Ddinbych, a ddechreuodd ddysgu karate i bobl ifanc eraill pan yn 12 oed, wedi ennill Gwobr Dewi Sant fel cydnabyddiaeth o'i gwaith yn y gymuned.

Dechreuodd Bethan Owen, 16 o Fodelwyddan, ymarfer karate yn saith oed fel bod ganddi ffocws gwahanol i'w dyletswyddau adref.

Mae'r disgybl chweched dosbarth yn Ysgol Emrys ap Iwan, Abergele wedi bod yn helpu ei thad i ofalu am ei mam - sy'n byw gydag epilepsi - ers ei bod yn ifanc iawn.

Erbyn i Bethan droi yn 12 oed roedd hi eisoes wedi ennill gwobr Pride of Sport a British Citizen Youth Award yn ogystal â chyrraedd lefel gwregys du mewn karate.

Fe lansiodd Bethan ei chlwb karate yn Y Rhyl gyda'r bwriad o roi cyfle i ofalwyr ifanc eraill gael ymarfer y gamp, ond mae'r dosbarthiadau wedi esblygu i gynnwys ystod eang o ran gallu ac oedran.

"Wnes i ddechrau'r dosbarth yma er mwyn helpu unigolion llai ffodus gan fod dosbarthiadau mor ddrud... ond hefyd roedd o'n ffordd dda o dynnu fy sylw o'r sefyllfa adref," meddai.

"'Dwi yn teimlo fy mod i wedi tyfu fyny yn gynt na fy ffrindiau, ond mewn ffordd rydw i'n falch o hynny... 'dwi'n llawer mwy aeddfed nawr."

Ychwanegodd: "Mae hi'n grêt i mi wybod fy mod i wedi helpu rhywun arall, rydw i wrth fy modd yn gofalu am bobl eraill."