Pa nofel Gymraeg sydd wedi ysbrydoli tatŵs Caryl Bryn?
- Cyhoeddwyd

Mae'r bardd a'r sgrifenwraig Caryl Bryn wrth ei bodd â'r nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard - mae ganddi un copi o'r nofel mae hi wedi ei ddarllen dros 40 o weithiau.
Mae hi hefyd wrth ei bodd â thatŵs. Penderfynodd gyfuno ei dau gariad drwy gael lluniau o'i hoff nofel wedi eu tatŵio ar ei chorff.

"Dw i wrth fy modd â thatŵs. Mi ges i fy un cynta'n 14 oed (er nad oeddwn i'n fod i'w gael!).
"Mae darluniau Ruth Jên yn nofel Un Nos Ola Leuad yn union fel 'dw i'n dychmygu'r cymeriada' a 'dw i wedi gwirioni â nhw.

"Felly pam cael tatŵs ohonyn nhw? Wel, ma' tatŵs, boed rhai UNOL neu eraill, yn rhoi cymaint o hyder i mi a 'dw i 'di gwirioni â'r syniad fod y ffurf hwn o body modification yn para' ar gorff. Mae pob un ohonynt fel craith bositif.
"Os y bydda i'n edrych ar graith sydd gen i ar fy llaw, mi fydda i'n chwerthin yn meddwl am y gêm o knuckles ges i'n 'rysgol a adawodd y graith. Mae hynny'n union fel mae un tatŵ, sydd mewn man na wna i ei enwi, yn gwneud i mi chwerthin a gwenu wrth feddwl am yr amser yr oeddwn i'n Sbaen gyda fy ffrindia'."

"Maen nhw fel cadw dyddiadur, bron - yn gofnodolion i mi'u mwynhau."
"Em Brawd Now Bach Glo ydi fy hoff gymeriad - y prif gymeriad (ond stori wahanol i'w chadw at sgwrs wahanol ydi honno!). Mae gen i Em ar waelod fy nghoes a wnaethpwyd gan John mewn siop datŵs ym Mangor ac yna mae gen i ddarlun o'r prif gymeriad yn nhŷ'i Nain wrth ei ochr. "

"Mae gen i glawr y llyfr ar fy ngarddwn ar yr ochr dde, ond y lleuad sydd ar y clawr ar yr ochr chwith. Mae gen i eiriau cynta' pennod 8 y nofel - 'Hwn ydy'r Llais, tybad?' (sydd hefyd yn enw ar fy nghyfrol gyntaf o gerddi) ar fy mraich.

"Dydi'r gweddill - 'dw i wedi colli cownt arnyn nhw erbyn hyn - yn ddim i'w wneud â'r nofel. Mae'n nhw'm amrywio o death head moth i gloc â'r amser yn 19:20 ag un o gerddi Iwan Llwyd yn gefndir i hynny. A dw i newydd gael matching tattoo efo fy ffrind gora', hefyd - ond dydi'r rheiny ddim i'w gweld...
"Dw i'n bwriadu cael bron pob un o ddarluniau Ruth Jên sydd yn y nofel fel tatŵ, os fydd gen i ddigon o le ac os bydd Elen o siop tatŵs yng Nghaernarfon sydd wedi gwneud y rhan fwyaf o'r tatŵs UNOL, yn fodlon gwneud i mi!"
Caryl Bryn yw Bardd y Mis BBC Radio Cymru ym mis Ebrill.
Efallai o ddiddordeb: