Galw am ymestyn oedran sgrinio canser y coluddyn
- Cyhoeddwyd
Mae elusen canser y coluddyn yn galw am i fwy o bobl hŷn yng Nghymru allu cael pecynnau sgrinio am ddim.
Ar hyn o bryd dim ond pobl rhwng 60 a 74 oed yng Nghymru sy'n cael gwahoddiad i gael eu sgrinio am ganser y coluddyn, a hynny pob dwy flynedd.
Yn ôl Bowel Cancer UK dylai'r rheiny dros 74 gael dewis aros yn rhan o'r broses sgrinio, fel sy'n digwydd yn Lloegr a'r Alban.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y rhaglen yn dilyn canllawiau gafodd eu darparu gan arbenigwyr.
Roedd Myra a Michael Smith o ardal Wrecsam yn arfer derbyn y profion, ond am eu bod bellach dros 75, dydyn nhw ddim yn gymwys.
Dywedodd Mrs Smith, 77, ei bod wedi cysylltu â rhaglen sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru i ofyn a allai hi dalu am brawf, ond eu bod wedi gwrthod.
Ychwanegodd ei bod hefyd wedi methu â chael cymorth gan ei meddyg teulu a'i fferyllydd.
"Mae'n drist bod pwy bynnag sy'n penderfynu hyn yn credu eich bod yn rhy hen am brofion meddygol ar ôl 74 oed," meddai.
"Byddai'n tawelu ein meddyliau ni pe bawn i'n gallu eu cael nhw."
'Terfyn gwallgo'
Mae'r cwpl am i bobl dros 74 oed allu gwneud cais am becyn sgrinio canser y coluddyn os ydyn nhw eisiau.
"Os yw'n achub bywyd un person mae'n werth gwneud," meddai Mrs Smith.
"I mi mae'n wallgo' bod terfyn oed - yn enwedig mor ifanc â 74, gyda phobl yn byw i fod yn 85 neu 95 oed."
Dywedodd pennaeth Bowel Cancer UK yng Nghymru, Lowri Griffiths, ei bod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau'r oedran sgrinio at 50 oed yn ddiweddar, ond bod angen gadael i bobl hŷn wneud cais i aros yn rhan o'r rhaglen hefyd.
"Mae'r perygl o gael canser y coluddyn yn cynyddu gydag oed, ac rydyn ni'n credu y dylai pobl o bob gwlad yn y DU gael yr un cyfle," meddai.
"Rydyn ni felly'n gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu eu safbwynt a gweithredu er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Cymru, fel gweddill y DU, yn dilyn cyngor arbenigol Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, sy'n dweud y dylai sgrinio'r coluddyn gael ei ddarparu hyd at 74 oed.
"Mae 'na beryglon yn ymwneud â sgrinio felly mae angen cael cydbwysedd rhwng y budd a'r niwed o'r prawf sy'n cael ei gynnig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2017