Canser y coluddyn: 'Angen i'r llywodraeth wneud mwy'

  • Cyhoeddwyd
ColonoscopeFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae elusen wedi galw am weithredu i wella diagnosis cynnar i gleifion sydd â chanser y coluddyn, gan ddweud bod y cyfraddau goroesi yng Nghymru yn "gwbl annerbyniol"

Mae Bowel Cancer UK am weld Llywodraeth Cymru yn creu targedau ar gyfer gwelliannau, gan ddweud bod niferoedd "brawychus" yn aros yn rhy hir ar gyfer profion.

Dywedodd Becky Williams, gweddw'r ymgyrchydd canser, y diweddar Irfon Williams, fod angen i'r Ysgrifennydd Iechyd lunio cynllun i wella'r sefyllfa yng Nghymru.

"Mae pethau wedi gwella efo triniaeth yng Nghymru, ond mae lot o bethau i wneud efo rhoi addysg i bobl," meddai Mrs Williams.

Dywed Llywodraeth Cymru fod cyfradd y rhai sy'n goroesi canser yn parhau i wella a bod pwyslais ar ganfod canser yn gynharach.

Mae ffigyrau gafodd eu cyhoeddi yn yr hydref yn dangos bod cyfraddau goroesi canser yn gwella, ond dywed arbenigwyr fod gan Gymru "ffordd hir i fynd" i gyrraedd safonnau gorau Ewrop.

Roedd cyfraddau goroesi canser y coluddyn yng Nghymru yn 25 ar y rhestr o 29, a'r unig wledydd oedd yn waeth na Chymru oedd Slofenia, Portiwgal ac Estonia.

Disgrifiad,

Becky, gwraig y diweddar Irfon Williams yn trafod profiad eu teulu nhw o'r salwch

Mae arbenigwyr yng Nghymru wedi bod yn edrych ar wersi a ddysgwyd mewn gwledydd fel Denmarc, ac mae cynlluniau peilot wedi cychwyn yn ardaloedd bwrdd iechyd Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg i feddygon teulu gyfeirio cleifion â symptomau llai amlwg i ganolfannau diagnostig - gyda'r holl brofion yn cael eu gwneud mewn un tro, ac o dan yr un to.

Mae cael cleifion i weld meddygon yn gynharach yn un mater, ond mae Bowel Cancer UK yn dweud bod unedau endosgopi mewn ysbytai yn cael trafferth ymdopi â'r galw am brofion.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Irfon Williams yn 2017, ar ôl brwydr hir yn erbyn canser y coluddyn

Mae'r elusen yn nodi'r ffigurau amser aros diweddaraf sy'n dangos bod dros 1,800 o bobl yn aros yn hirach na'r targed o wyth wythnos a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer colonosgopi neu archwiliad sy'n gallu canfod canser y coluddyn.

Roedd tua 15% o gleifion - mwy na 500 - yn aros dros 14 wythnos am golonosgopi ym mis Tachwedd, ac 18% arall - 478 - yn aros am sigmoidosgopi flexi yn yr un cyfnod.

Mae'r elusen wedi disgrifio'r sefyllfa fel un "brawychus".

Mae'r elusen hefyd wedi tynnu sylw at achos Sam Gould, yr ymgyrchydd UKIP a fu farw yr haf diwethaf yn 33 oed. Roedd Mr Gould yn adnabyddus am ei fideo yn amlinellu pwysigrwydd cael diagnosis cynnar.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er bod nifer cynyddol o bobl yn cael diagnosis o ganser, mae mwy o bobl yn cael eu trin o fewn amser targed ac mae cyfradd y rhai sy'n goroesi canser yn parhau i wella.

"Mae GIG Cymru'n gweithio'n galed i gyflawni'r ymrwymiadau a nodir gennym yn ein Cynllun Cyflenwi Canser, sydd â phwyslais arbennig ar wella ansawdd bywyd, canfod canser yn gynharach ac yn y pen draw gwella canlyniadau i gleifion."